Cynnig Gofal Plant Cymru: Help gyda chost gofal plant i rieni gymwys sydd â phlant 3 i 4 oed
Oes angen i chi gael cymorth gyda chostau gofal plant? Trwy Gynnig Gofal Plant Cymru, fe allech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. Nod y cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yw lleihau baich costau gofal plant fel y gallwch wario’r arian rydych wedi’i arbed ar y pethau sydd bwysicaf i’ch teulu.
Mae’r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu’n meddwl am ddychwelyd i addysg neu hyfforddiant, ond yn pryderu am gostau gofal plant, gallai’r cymorth hwn wneud gwahaniaeth mawr.
Beth bynnag mae’r Cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli’r cyfle i gael eich rhan o’r cyllid gofal plant hwn.
Dysgwch fwy a gwnewch gais am Gynnig Gofal Plant Cymru.

Bydd angen i bob rhiant a hoffai gael gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru o fis Ionawr 2023 ymlaen wneud cais trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn ddwyieithog ac fe allwch gael ato trwy liniadur, ffôn symudol neu ddyfais lechen.
Wrth wneud cais, bydd arnoch angen:
- Tystysgrif geni’ch plentyn
- Prawf o’ch cyfeiriad
- Prawf o incwm yr aelwyd neu gofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach
Rhieni sydd eisoes yn defnyddio’r Cynnig cyn mis Ionawr 2023
Os ydych eisoes yn defnyddio’r Cynnig cyn mis Ionawr 2023, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oherwydd byddwch yn aros ar y system bresennol hyd nes y byddwch yn anghymwys.