Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynnig i newid y system ardystio marwolaethau a chyflwyno archwilwyr meddygol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y cynnig yw bod archwilydd meddygol annibynnol yn ystyried pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr – ac eithrio’r rhai sy’n destun ymchwiliad gan grwner. Gallai’r system newydd hon fod ar waith o fis Ebrill 2018 ymlaen. 

Bydd yr archwilydd meddygol yn edrych ar nodiadau meddygol yr unigolyn sydd wedi marw i sicrhau bod achos ei farwolaeth yn cael ei nodi’n gywir. Bydd hefyd yn cysylltu â pherthnasau’r sawl sydd wedi marw i drafod hyn. 

Bydd y newidiadau’n rhoi sicrwydd i deuluoedd sydd wedi colli rhywun. Byddant yn gallu cael rhywfaint o gysur o wybod bod person annibynnol yn edrych ar achos y farwolaeth er mwyn sicrhau bod popeth yn ôl y disgwyl.  

Daw’r penderfyniad i newid y system bresennol yn sgil yr Ymchwiliad i Harold Shipman ac adolygiadau eraill megis Adroddiad Francis i Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd Stafford. Ar ôl ei diwygio, bydd y system yn fodd i atal camweddau, a hyrwyddo dysgu a gwella. 

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am ymatebion i’r syniad o godi ffi am wasanaeth yr archwilydd meddygol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud o ran union swm y ffi honno, ac mae’r opsiynau ynghylch sut y bydd yn cael ei thalu yn parhau i gael eu hystyried.