Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r newyddion bod allforion Cymru wedi cynyddu mwy na 4% wedi'i groesawu gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ystadegau allforio diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod gwerth allforion Cymru yn £16.6 biliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2018, sy'n gynnydd o £0.7 biliwn o gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. 


Roedd 61.3% o'r allforion hynny wedi mynd i wledydd yr UE.  Mae'r ffigur hwn yn fwy na 11 o bwyntiau canran yn uwch na chyfran y DU sy'n 50%. 


Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos cynnydd o £643 miliwn yn allforion Cymru i wledydd yr UE, sy'n gynnydd o 6.8% o gymharu â'r 12 mis blaenorol. Gwelwyd hefyd gynnydd o £20 miliwn (0.3%) yn yr allforion i wledydd nad ydynt yn yr UE. 


Roedd yr Almaen yn parhau i fod ar frig y rhestr o wledydd sy'n cael nwyddau a gwasanaethau o Gymru gyda 19.9% o gyfanswm yr allforion yn mynd yno. Roedd 52.1% o allforion Cymru yn ymwneud â Pheirianwaith ac Offer Trafnidiaeth. 


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


"Llongyfarchiadau mawr i fusnesau ledled Cymru sydd wedi helpu i sicrhau'r cynnydd hwn o £663 miliwn yn allforion Cymru. 


"Mae'r ffigyrau hyn yn dystiolaeth o'u gwaith caled a'u hagwedd benderfynol yn yr hinsawdd economaidd heriol ac ansicr hon. 


“Mae ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi’n nodi’n glir ein hymrwymiad i roi blaenoriaeth i allforio a masnachu, a helpu busnesau i gadw eu partneriaid masnachu presennol gan eu helpu i ehangu i farchnadoedd eraill ar draws y byd ar yr un pryd. Byddwn yn dal i weithio'n agos ac yn rhagweithiol gyda busnesau i gefnogi eu rhaglenni allforio a'u huchelgeisiau.

 

"Unwaith eto mae'r ystadegau hyn yn hoelio sylw ar bwysigrwydd economaidd ein perthnasau masnachu ardderchog â gwledydd yr UE, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am 61.3% o gyfanswm ein hallforion. 

"Rydym yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn gallu manteisio'n llawn ac yn ddirwystr ar y Farchnad Sengl a chymryd rhan mewn undeb tollau, ar ôl Brexit, er mwyn inni ychwanegu at lwyddiannau busnesau Cymru o ran cynyddu eu cyfran o'r farchnad dramor.”