Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020 yn bwysig gan fod safon cartrefi pobl yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles, cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd eu plant, ac ansawdd yr ardal lle maen nhw’n byw.

Rwy’n croesawu’r data newydd sydd wedi’u cyhoeddi 6 Hydref sy’n dangos bod 177,219 o aelwydydd (79%) nawr yn byw mewn cartrefi o ansawdd da. Mae hyn yn gynnydd o 17,902 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd o 8 pwynt canran. Mae pob landlord cymdeithasol yn dal ar y trywydd iawn o ran ein dyddiad ar gyfer cyrraedd y safon, sef 2020.

Mae’r nod hwn yn bosibl am ein bod wedi parhau i fuddsoddi £108m o gyfalaf bob blwyddyn, sy’n denu bron i bum gwaith y swm hwnnw gan landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru. Mae ein harian ni a’u hymdrechion nhw wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i gartrefi rhai o’n tenantiaid tlotaf. Bellach mae gan 79% o’r cartrefi doeon cadarn, drysau a ffenestri diogel, boeleri sy’n effeithlon o ran ynni, larymau mwg, a cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern. Mae’r lefel a gyrhaeddwyd ar rai elfennau yn uwch byth. Er enghraifft, mae gan 98% o gartrefi wres canolog erbyn hyn.

Mae yna waith i’w wneud yn dal i fod, ond mae’r gwelliannau nawr yn amlwg iawn yng nghartrefi pobl. Mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni wedi gwneud argraff arnaf, a dros y blynyddoedd rwyf wedi siarad â llawer o denantiaid y mae eu cartrefi wedi’u gwella, ac wedi clywed am effaith bositif hyn ar eu bywydau. Mae manteision ehangach i’r rhaglen hon o ran blaenoriaethau’r Llywodraeth. Yn gyffredinol, caiff y cysylltiad rhwng tai gwael ac iechyd gwael ei gydnabod. Fodd bynnag, ni chydnabyddir bob amser y manteision sylweddol a ddaw drwy sicrhau bod y symiau cyfalaf aruthrol a gaiff eu buddsoddi bob blwyddyn drwy raglen Safon Ansawdd Tai Cymru gan Lywodraeth Cymru a landlordiaid yn creu swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi yn rhai o’n cymunedau tlotaf drwy ddulliau sy’n sicrhau budd cymunedol.
 
Hyd yma, mae  Adnodd Mesur Buddion Cymunedol Gwerth Cymru wedi olrhain contractau gwerth £452 miliwn ac wedi gweld 85% o’r gwariant hwnnw yn cael ei ailfuddsoddi yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r buddsoddiad wedi helpu dros 777 o bobl i gael gwaith neu hyfforddiant, gan ddarparu’r hyn sy’n cyfateb i 19,920 o wythnosau o hyfforddiant.

Mae’r data ar y cynnydd o ran Safon Ansawdd Tai Cymru a gyhoeddwyd 6 Hydref yn newyddion da iawn i’n pobl, ein cymunedau a’n busnesau yng Nghymru