Neidio i'r prif gynnwy

Roedd 504 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2016, sef cynnydd o 8.9% ers 2015.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fodd bynnag, er y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau, mae pethau wedi gwella o ran y gallu i ddarparu triniaeth yn gyflymach. Dyna a ddangosir yn adroddiad blynyddol 2017 ar gyfer strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed.

Mae nifer cynyddol o bobl sydd wedi'u hatgyfeirio i gael triniaeth yn cael cymorth o fewn y targed o 20 diwrnod. Mae canlyniadau'r triniaethau hefyd yn gwella, gyda 77% o bobl yn dweud eu bod yn defnyddio llai o sylweddau yn 2016/17 o gymharu â 69.2% yn 2012/13.

Mae'r adroddiad yn dangos bod bron hanner y bobl yr aseswyd bod ganddyn nhw broblem camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn dioddef o broblemau alcohol. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod  20% o oedolion (neu 1 o bob 5) yn 2016 yn dweud eu bod yn yfed mwy o alcohol nag argymhelliad Prif Swyddogion Meddygol y DU o 14 uned yr wythnos.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, bod y ffigurau newydd yn dangos bod angen cymryd camau ar frys i fynd i'r afael â fforddiadwyedd alcohol, a hynny fel rhan o ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil newydd i gyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu alcohol fel rhan o’r ymdrechion i fynd i'r afael â’r cyflenwad o alcohol rhad a chryf sydd ar gael.

Bu hefyd gynnydd yn y nifer sy'n defnyddio cyffuriau a nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r amcangyfrifon o'r nifer sy'n defnyddio opioidau, cocên a chrac, amffetaminau a sylweddau seicoweithredol newydd mewn ffordd broblemus yn dangos bod tua 49,370 o bobl yng Nghymru rhwng 15 a 64 oed yn defnyddio'r mathau hyn o gyffuriau, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd a chyfiawnder troseddol.

Yn 2016, bu farw 271 o bobl oherwydd gwenwyn cyffuriau (cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon) yng Nghymru. O'r rhain, roedd 192 ohonynt oherwydd camddefnyddio cyffuriau (cyffuriau anghyfreithlon).

Mae Llywodraeth Cymru yn dwysáu ei hymdrechion i fynd i'r afael â marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau – marwolaethau y gellid eu hosgoi. Mae’n gwneud hynny drwy lansio ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth newydd a thrwy gydweithio'n agos â grwpiau lleihau niwed lleol i lunio camau pellach i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru.

Ochr yn ochr ag ystod eraill o ymyraethau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r rhaglen Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref - cyffur sy'n gwrthdroi effeithiau gorddos o gyffur opiad dros dro. Ers 2009, mae dros 15,000 o becynnau wedi'u dosbarthu yng Nghymru, gyda 1,654 ohonynt wedi'u defnyddio. Mae Naloxone ar gael ym mhob gwasanaeth trin cyffuriau yn y gymuned ac ym mhob carchar yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:


"Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd fawr sy'n effeithio ar les unigolion, teuluoedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron £50m y flwyddyn yn mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Ond wrth inni fuddsoddi a gweithio'n galed i leihau niwed, mae angen i ni gymryd camau ychwanegol i atal y niwed hwnnw rhag digwydd yn y lle cyntaf.

"Mae atal pobl rhag camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol yr un mor bwysig â thrin y broblem ei hun. Rydyn ni'n gwybod bod y niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol yn benodol yn bryder difrifol, a dyna pam fod angen mynd i'r afael â fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf ar frys drwy gyflwyno isafbris uned ar gyfer gwerthu alcohol.

"Fodd bynnag, mae'r adroddiad hwn yn dangos bod y bobl sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau yn gallu cael help. Rwy'n falch bod nifer y bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau sy'n cael cymorth o fewn y targed o 20 diwrnod wedi gwella'n sylweddol, a bod mwy o bobl yn dweud eu bod wedi gallu lleihau pa mor ddibynnol ydyn nhw ar alcohol neu gyffuriau ar ôl triniaeth.

“Er hynny, dydyn ni ddim yn hunanfodlon. Ein nod yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o'r peryglon ac o effaith camddefnyddio sylweddau er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a gwybod lle i gael help a chymorth - gan fod pob marwolaeth oherwydd camddefnyddio alcohol neu gyffuriau yn farwolaeth y mae modd ei hosgoi ac y dylid ei hosgoi."