Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022 i 2023. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o ba mor dda y mae’r ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu agweddau allweddol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod ADY cyfatebol. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi cefnogi ysgolion.

Crynodeb o'r prif gasgliadau

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)

Roedd llawer o ysgolion a gymerodd ran yn yr adolygiad yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn, ar y cyfan, o’r diffiniad o ADY. Fodd bynnag, dywedodd ychydig o awdurdodau lleol ac ysgolion eu bod yn aneglur am y diffiniadau cyfreithiol a beth roedd hyn yn ei olygu, yn ymarferol. Cyfaddefodd yr awdurdodau lleol a’r ysgolion hyn iddynt ddefnyddio’u diffiniadau eu hunain a’u bod yn aros am eglurhad o ganlyniadau tribiwnlys.

Dywedodd ychydig iawn o ysgolion nad oedd eu hawdurdod lleol wedi darparu cyngor digon clir ar y diffiniadau cyfreithiol, a bod arweiniad wedi bod yn gyfyngedig. Yn ychwanegol, dywedodd ychydig o awdurdodau lleol, ac ychydig o ysgolion, nad yw’r Cod ADY yn rhoi arweiniad ymarferol digon clir ar sut i gymhwyso’r diffiniadau.

Yn gyffredinol, roedd gan Gydlynwyr ADY ddealltwriaeth glir iawn o’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion yn eu hysgol. Dros gyfnod, mae’r ddarpariaeth hon fel arfer wedi cael ei haddasu’n dda i ddiwallu anghenion newidiol y disgyblion.

Mae termau fel ‘cyffredinol’, ‘cyffredinol a mwy’, ‘targedig’, ‘arbenigol’ a, ‘chymorth arbenigol, yn cynnwys cymorth amlasiantaethol’, yn cael eu defnyddio’n gynyddol i gategoreiddio’r cymorth a’r ddarpariaeth a drefnir gan ysgolion. Fodd bynnag, nid oes dealltwriaeth gyffredin bob amser o’r termau neu beth sy’n gyfystyr â darpariaeth o dan bob un o’r categorïau hyn. Nid oedd yn glir i ba raddau y mae darpariaeth yn y categorïau hyn yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Nid oedd ychydig o’r awdurdodau lleol yr ymgysylltom â nhw yn ddigon ymwybodol o’u dyletswydd statudol i adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyson.

Pontio o AAA i ADY

Mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn gweithio gyda dau fframwaith deddfwriaethol gwahanol ar yr un pryd hyd nes bydd yr holl ddisgyblion yn pontio o’r system AAA i’r system ADY. Mae hyn wedi creu baich gwaith ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol ac ysgolion, fel ei gilydd. Roedd awdurdodau lleol ac ysgolion yn croesawu’r newid cychwynnol yn y cyfnod gweithredu, ac yn gweld hyn yn fuddiol. Defnyddion nhw’r amser

yn ystyrlon a pharhau i gynllunio ar gyfer gweithredu. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ac ysgolion sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn yn feirniadol o’r estyniad diweddar, a’i amseriad. Maent yn bwriadu cadw at eu cynlluniau gwreiddiol a chwblhau gweithredu diwygio ADY erbyn Awst 2024.

Dylanwadodd y Cydlynwyr ADY hynny a oedd yn aelodau o uwch dimau arweinyddiaeth ar benderfyniadau strategol a defnyddion nhw eu swyddi’n dda i hyrwyddo ADY ar draws pob agwedd ar waith yr ysgol, gan gynnwys addysgu, y cwricwlwm a sicrhau ansawdd. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, nid oedd Cydlynwyr ADY, nad ydynt efallai’n aelodau o’r uwch dîm rheoli, bob amser o’r farn eu bod yn cael cymorth da gan uwch arweinwyr, ac roedd eu dylanwad ar lefel ysgol gyfan yn gyfyngedig.

Roedd y Cydlynwyr ADY a gymerodd ran yn yr adolygiad hwn yn frwdfrydig ac ymroddgar. Mae eu rôl wedi newid yn sylweddol, nid yn unig o ran baich gwaith cynyddol ond hefyd o ran cyfrifoldeb cynyddol. Nid yw’n anghyffredin i Gydlynwyr ADY gael rolau arwain ac addysgu eraill yn eu hysgol. Mae hyn yn lleihau’r amser y gallant ei neilltuo i oruchwylio ansawdd y ddarpariaeth, gan gynnwys cymorth ar gyfer disgyblion ag ADY.

Nid oedd awdurdodau lleol bob amser yn glir ynghylch p’un a yw ADY yn rhan o gynlluniau gwella ysgolion neu p’un a yw swyddogion gwella ysgolion yn cael trafodaethau ag ysgolion yn ymwneud ag ADY yn gyffredinol, a chynlluniau ar gyfer gweithredu diwygiadau ADY yn fwy penodol.

Mae datblygu gweithio mewn clwstwr, dan arweiniad CydADY clwstwr, wedi helpu sicrhau bod ysgolion yn cael cymorth da i weithredu diwygio ADY trwy rannu arfer ac adnoddau arbenigol. Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd yr ymagwedd gydlynus at weithio mewn clwstwr yn aneglur. Yn ychwanegol, roedd llawer o ysgolion a gymerodd ran yn yr adolygiad hwn o’r farn eu bod yn cael cymorth da gan eu hawdurdod lleol. Fodd bynnag, nid yw ychydig o ysgolion uwchradd wedi cael cymorth a chyngor gan eu hawdurdodau lleol mewn modd digon amserol.

At ei gilydd, mae’n ddyddiau cynnar iawn o ran datblygu strategaethau awdurdodau lleol ar gyfer y sector ôl-16. Dywed yr awdurdodau lleol hynny sydd wedi penodi swyddogion ôl-16 dynodedig eu bod yn datblygu partneriaethau strategol cryfach gyda darparwyr addysg bellach. Mae’r wybodaeth sydd gan awdurdodau lleol am golegau arbenigol annibynnol yn llai cadarn, ac o ganlyniad, mae eu hymgysylltiad â nhw yn fwy cyfyngedig. O ganlyniad, ni all awdurdodau lleol wneud penderfyniadau gwybodus am ystod lawn y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar draws y sector ôl-16, pan maent yn gwybod cyn lleied am y sector a’r hyn y mae’n ei ddarparu.

Roedd yr awdurdodau lleol a’r ysgolion a gymerodd ran yn unfryd yn eu brwdfrydedd am arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynllunio. At ei gilydd, mae’r ysgolion hyn wedi bod yn greadigol o ran cynorthwyo disgyblion a rhieni yn dda i ddatblygu eu hyder i ymgysylltu’n ystyrlon â thrafodaethau. Cryfhawyd perthnasoedd rhwng ysgolion a rhieni. Fodd bynnag, mae’r ymagwedd gyffredinol at sicrhau ansawdd arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys nodi arferion sydd fwyaf effeithiol, yn rhy anghyson o hyd. Yn ychwanegol, er gwaethaf manteision clir y dull arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, soniodd bron pob un o’r darparwyr a gymerodd ran am y baich gwaith ychwanegol mae hyn yn ei greu.

Roedd llawer o ysgolion yn glir y bydd awdurdodau lleol yn cynnal CDUau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sydd â chofrestriad deuol, er enghraifft disgyblion sy’n mynychu unedau cyfeirio disgyblion. Y tu hwnt i’r grwpiau hyn, roedd diffyg eglurder a thryloywder ynghylch pa CDUau fydd yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol. Yn ychwanegol, roedd anghysondebau clir yn ymarferol. Er enghraifft, efallai bydd CDU disgyblion sy’n mynychu dosbarthiadau arbenigol awdurdodau lleol yn cael ei gynnal naill ai gan yr awdurdod lleol neu’r ysgol y maent yn ei mynychu.

Mae hyrwyddwyr a swyddogion CDUau sy’n cefnogi datblygiad CDUau wedi cael eu defnyddio’n effeithiol, ar y cyfan, ac mae ysgolion sydd wedi bod yn rhan o weithio mewn clwstwr wedi gwerthfawrogi’r cyfle i weithio gyda chydweithwyr o ysgolion eraill. Yn gyffredinol, roedd yr ysgolion hyn yn fwy hyderus o ran gweithredu diwygio ADY, ond at ei gilydd, lleiafrif o ysgolion yn unig yr ymwelwyd â nhw oedd yn teimlo’n sicr i ddatblygu a chynnal CDUau.

Dywedodd awdurdodau lleol ac ysgolion fod pwysau sylweddol o ran bodloni’r graddfeydd amser statudol ar gyfer cyflwyno CDUau. Cydweithwyr mewn asiantaethau eraill, yn enwedig asiantaethau iechyd, sy’n cael yr anhawster mwyaf yn darparu cyngor a gwybodaeth o fewn y graddfeydd amser penodol. Yn ychwanegol, roedd yr ymrwymiad a wna awdurdodau iechyd i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn rhy amrywiol.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn y sampl wedi dibynnu’n sylweddol ar eu hawdurdod lleol, ac arweiniodd eu trawsnewid rhanbarthol at ddarparu gwybodaeth sydd wedi’i chloriannu ac yn ystyrlon iddynt, lle bo’n briodol. Roedd awdurdodau ac ysgolion a gymerodd ran yn feirniadol, ar y cyfan, o amseroldeb a defnyddioldeb y wybodaeth a’r canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd lleiafrif o ysgolion nad ydynt wedi defnyddio’r Cod ADY a’u bod wedi dibynnu ar y canllawiau a ddarparwyd gan eu hawdurdod lleol. Yn ychwanegol, roedd ysgolion yn gyffredinol yn gobeithio y byddai’r Cod ADY yn darparu enghreifftiau o arfer.

Mae bron pob un o’r awdurdodau lleol a gymerodd ran wedi lanlwytho gwybodaeth am ddiwygio ADY i wefan eu Cyngor. Yn ychwanegol, crëwyd amrywiaeth o daflenni gwybodaeth hefyd, wedi’u hanelu at rieni a gofalwyr, a phlant a phobl ifanc. Mae’r rhai a grëwyd gan glystyrau o ysgolion, neu’n rhanbarthol, yn helpu sicrhau neges gyson ledled rhanbarth. Fodd bynnag, mae ansawdd a hygyrchedd y wybodaeth ar gyfer rhieni ar wefannau Cynghorau ac ysgolion yn rhy amrywiol. Adroddir, trwy sefydliadau’r trydydd sector, fod rhai teuluoedd yn cael eu cynghori’n anghywir nad yw’r system ADY yn berthnasol i’w plentyn.

At ei gilydd, dywedodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ac ysgolion yn y sampl y bu her yn isel oherwydd y perthnasoedd gweithio cryfach â rhieni. Yn sgil y gwaith sensitif rhwng Cydlynwyr ADY ysgolion a rhieni, yn enwedig lle ystyrir nad oes gan ddisgyblion ADY pan fyddent wedi cael AAA yn y gorffennol, mae rhieni, yn gyffredinol, yn dawelach eu meddwl fod y ddarpariaeth sydd wedi’i threfnu yn diwallu anghenion y disgybl. Bu eithriad i hyn yn gysylltiedig â her gan rieni ynglŷn â’r diffyg eglurder am drefniadau a darpariaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae mwyafrif yr apeliadau a gofnodir gyda'r Tribiwnlys Addysg naill ai’n cael eu caniatáu gan awdurdodau lleol neu’u tynnu’n ôl gan yr apelydd, sy’n awgrymu bod llawer o waith i’w wneud o hyd rhwng awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni i osgoi anghydfod ar adeg gynharach (Tribiwnlys Addysg Cymru, 2022).

At ei gilydd, mae cydweithio a rhannu gwybodaeth yn well rhwng asiantaethau yn rhy amrywiol. Roedd llawer o ysgolion yn gadarnhaol am y cydweithio sy’n bodoli rhyngddyn nhw eu hunain a’u hawdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol wedi croesawu rôl y DECLO. Fodd bynnag, mae gallu gwasanaethau iechyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor mewn modd digon amserol, ac o fewn cyfnodau statudol, yn destun pryder.

Parhaodd awdurdodau lleol ac ysgolion i nodi bod manteisio ar gymorth gan wasanaethau lleferydd ac iaith, timau niwroddatblygiadol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, yn her ddybryd iawn. Mae’r anawsterau hyn yn barhaus ac nid ydynt yn gysylltiedig â chyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, o reidrwydd.

Mae awdurdodau lleol yn gwella darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn raddol. Cyflawnir hyn yn bennaf trwy sefydlu dosbarthiadau arbenigol awdurdodau lleol mewn ysgolion prif ffrwd cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae heriau’n parhau o ran diwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r heriau hyn yn cynnwys diffyg adnoddau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg, staffio a darpariaeth ddigonol.

Cyllid a darparu adnoddau

Mae’r cyllid ar gyfer AAA/ADY wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn am yr wyth mlynedd ddiwethaf, o leiaf (Llywodraeth Cymru 2022b). Fodd bynnag, mae diffyg tryloywder, a dealltwriaeth uwch arweinwyr mewn ysgolion yn y sampl, ynglŷn â sut mae awdurdodau lleol yn pennu eu cyllidebau ar gyfer ADY, gan gynnwys y rhai a ddyrennir i ysgolion. Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £67 miliwn i gefnogi diwygio ADY (Llywodraeth Cymru 2022d, 2022c, f, h). Yn gyffredinol, roedd uwch arweinwyr mewn ysgolion a gymerodd ran yn aneglur ynglŷn â sut mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi cael ei ddefnyddio yn eu hawdurdod. Mae dulliau i werthuso’r effaith y mae cyllid wedi’i chael ar gefnogi gweithredu diwygio ADY yn amrywiol a gwan, ar y cyfan.

Datblygiad proffesiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu deunyddiau e-ddysgu ar-lein addysgiadol iawn, ond roedd y graddau y cafodd y rhain eu defnyddio a’u rhannu gan awdurdodau lleol ac ysgolion yn rhy amrywiol. O ganlyniad, nid oedd gweithwyr proffesiynol a rhieni mor ymwybodol ag y gallent fod ynghylch rhesymeg a goblygiadau diwygio ADY.

Gall ysgolion prif ffrwd fanteisio ar raglenni hyfforddiant cynhwysfawr a chymorth gan eu hawdurdodau lleol, gan gynnwys cymorth ac arweiniad gan ysgolion arbennig, lle mae trefniadau o’r fath yn bodoli. Siaradodd llawer o ysgolion a gymerodd ran yn hyderus am yr effaith gadarnhaol y mae dysgu proffesiynol wedi’i chael ar staff a disgyblion, fel ei gilydd. Fodd bynnag, roedd y graddau y mae dysgu proffesiynol yn effeithio ar ansawdd yr addysgu ar gyfer yr holl ddisgyblion yn llai amlwg.

Bu llawer o’r ffocws diweddar ar ddatblygiad proffesiynol yn gysylltiedig â chefnogi dealltwriaeth o newidiadau i’r system ADY. Roedd cefnogi datblygiad proffesiynol holl staff ysgolion, gan gynnwys y rhai sy’n dechrau yn y proffesiwn, o ran addysgu a diwallu anghenion disgyblion ag ADY, yn llai datblygedig.

Arfer effeithiol

Mae’r adroddiad yn cynnwys llawer o nodweddion arfer effeithiol, gan gynnwys:

  • eglurder, cysondeb ac amseroldeb cyngor, cymorth ac arweiniad a ddarperir gan awdurdodau lleol ac arweinwyr trawsnewid rhanbarthol
  • datblygu gweithio mewn clystyrau
  • rôl arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a hyrwyddwyr CDU
  • ymrwymiad ac ymroddiad swyddogion awdurdodau lleol a Chydlynwyr ADY ysgolion

Argymhellion

Cyflwynir cyfanswm o ddeg argymhelliad yn yr adroddiad, tri ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru, tri ar gyfer ysgolion a phedwar ar gyfer awdurdodau lleol.

Ysgolion

Dylai ysgolion:

Argymhelliad 1

Wella ansawdd y wybodaeth a ddarperir i rieni, er enghraifft, a datgan yn glir beth mae’r ysgol yn ei hystyried yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Argymhelliad 2

Sicrhau bod gan Gydlynwyr ADY ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau.

Argymhelliad 3

Sicrhau bod dysgu proffesiynol staff ysgol yn cynnwys ffocws digonol ar addysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ag ADY.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 i 3

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhellion hyn gan eu bod yn cefnogi'r swyddogaethau statudol a'r dyletswyddau strategol a osodir ar ysgolion fel y nodir yn y Cod ADY. Mae rôl Cydlynwyr ADY yn hollbwysig, ac mae'r grant gweithredu ADY i ysgolion yn sail i gefnogaeth i’r Cydlynwyr yn ystod y cyfnod pontio hwn. Ar ben hynny, mae'r disgwyliadau yn gyson â rôl ysgolion fel sefydliadau dysgu, pwysigrwydd addysgu o ansawdd uchel ac yn ganolog i'n hagenda gwella ysgolion sy'n sail i ddiwygio'r cwricwlwm ac ADY.

Mae partneriaeth a chydweithio yn ganolog i lwyddiant y diwygiadau ADY a byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r argymhellion trwy drafodaethau ac ymgysylltu parhaus.

Awdurdodau lleol

Dylai awdurdodau lleol:

Argymhelliad 4

Sicrhau bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.

Argymhelliad 5

Darparu gwybodaeth glir, gywir a chyfoes i randdeiliaid, yn enwedig o ran:

  • beth mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn ei olygu yn ei ysgolion
  • y CDUau hynny a fydd yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol a’r rhai a fydd yn cael eu cynnal gan ysgolion

Argymhelliad 6

Parhau i sicrhau ansawdd ac adolygu arfer a darpariaeth ddysgu ychwanegol i sicrhau bod cyllid a dysgu proffesiynol yn cefnogi cyflwyno’n effeithiol ar gyfer:

  • arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • cynlluniau datblygu unigol
  • gwasanaethau, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Argymhelliad 7

Datblygu a chyhoeddi eu strategaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag ADY.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 4 i 7

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhellion hyn gan eu bod yn cefnogi ein disgwyliadau a'r dyletswyddau strategol a osodir ar awdurdodau lleol fel y nodir yn y Cod ADY.

Mae ein partneriaeth a'n cydweithrediad ag awdurdodau lleol yn ganolog i lwyddiant y diwygiadau ADY a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad hwn.

Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i ofyn iddynt ystyried yn ofalus a bwrw ymlaen â'r pedwar argymhelliad sy'n ymwneud â'r swyddogaethau statudol a'r dyletswyddau strategol gan gynnwys: sefydlu a chyhoeddi cyfres o egwyddorion a fydd yn gymwys wrth benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol sicrhau DDdY neu a ddylai'r awdurdod wneud hynny; ac adolygu trefniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY.

Gwahoddir awdurdodau lleol hefyd i ddigwyddiad cyfathrebu yr hydref hwn i rannu negeseuon allweddol ar weithredu'r System ADY, gan gynnwys yr argymhellion yn yr adroddiad hwn. Byddwn yn gweithio ar y cyd â phartneriaid mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod y system ADY yn cael ei gweithredu'n llawn ac yn effeithiol.

Llywodraeth Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru:

Argymhelliad 8

Sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r Cod ADY, a darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth.

Argymhelliad 9

Gwerthuso effaith cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i awdurdodau lleol yn llawn.

Argymhelliad 10

Sicrhau bod arweiniad a chyllid yn y dyfodol yn cael ei ddarparu mewn modd amserol i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio’n ddigonol.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 8 i 10

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r canfyddiadau a'r argymhellion yn adroddiad Estyn.

O ran argymhelliad 8, mae’r dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol a lleoliadau addysg ac iechyd i roi’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a'r Cod ADY ar waith. Ni all Llywodraeth Cymru ddarparu cyngor cyfreithiol penodol i'r cyrff perthnasol hyn, ond gall hyn gael ei ddarparu gan gynghorwyr cyfreithiol a gyfarwyddir gan y corff perthnasol. Mae Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Thribiwnlys Addysg Cymru ac yn archwilio'r posibilrwydd o gyhoeddi dogfennaeth ychwanegol a allai helpu lleoliadau i ddeall y gyfraith ymhellach. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i hwyluso’r broses o rannu a hyrwyddo arfer effeithiol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddehongliad yn gyson â bwriad polisi. Bydd unrhyw ddeunydd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru at ddibenion eglurhaol yn unig a dylid ei drin felly. Yn y pen draw bydd pob achos unigol yn cael ei ystyried ar sail ei ffeithiau unigol.

O ran argymhelliad 9, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Arad Research i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o'r System Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd hyn yn cynnwys asesu effeithiolrwydd y broses o weithredu'r system, gan nodi unrhyw elfennau sy’n rhwystro neu’n hwyluso’r gweithredu ac ymyriadau y gellid eu rhoi ar waith.

Bydd Arad yn cynnal sawl astudiaeth ardal gyda’r sector i edrych ar y rhagdybiaethau ynghylch effaith adnoddau, gan gynnwys cyllid gweithredu a ddarparwyd i helpu i weithredu'r system ADY. Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cyfathrebu'n dryloyw ag ysgolion ar sut mae cyllid gweithredu yn cael ei ddefnyddio.

O ran argymhelliad 10, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu gwybodaeth am ddiwygiadau ADY / fframwaith ADY a fydd yn cefnogi, cynghori ac arwain partneriaid. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau lle bo'n briodol ac yn bosibl, y bydd canllawiau neu ddogfennau tebyg ar gael mewn modd amserol ac effeithiol yn y dyfodol.

Manylion cyhoeddi

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar neu ar ôl 29 Medi a gellir ei weld ar wefan Estyn.