Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2021.

Mae'r data cynnyrch domestig gros (CDG) diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2022.

Mae CDG yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.

Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.

Newid dros y chwarter

  • Gostyngodd CDG yng Nghymru 0.3% rhwng Gorffennaf a Medi 2021 o’i  gymharu â’r chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin). Mae hyn yn dilyn cynnydd yn chwarter 2 2021 yn dilyn llacio cyfyngiadau COVID-19.
  • Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gostyngiad mewn CDG dros y chwarter. Gwelodd Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr oll gynnydd dros yr un cyfnod (cynnydd o 1.4%, 0.9% a 0.6%, yn y drefn honno).
  • Llety a gweithgareddau gwasanaeth bwyd oedd y diwydiant â’r twf canrannol mwyaf yn chwarter 3 2021 (cynnydd o 23.7%). Yn ogystal, gwelodd y diwydiant hwn y twf canrannol mwyaf yn chwarter 2 2021, sy'n debygol o adlewyrchu llacio cyfyngiadau COVID-19.
  • Mwyngloddio a chwarela oedd y diwydiant a welodd y gostyngiad mwyaf dros y chwarter (gostyngiad o 21.3%).

Nodyn

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi oedi cyn diweddaru'r gyfres amser rhwng Chwarter 1 2012 a Chwarter 4 2019 i ganolbwyntio ar ddatblygu dulliau o wella ansawdd data a lleihau amlder y diwygiadau.

O ganlyniad, mae’r data yn y datganiad hwn wedi'u diweddaru i gynnwys chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021 ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i gyfnodau data cynharach, gan gynnwys alinio â Chyfrifon Rhanbarthol Blynyddol neu Gyfrifon Gwladol Chwarterol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. O'r herwydd, mae'r sylwebaeth wedi'i chyfyngu i newidiadau chwarter-chwarter o Chwarter 2 2021 i Chwarter 3 2021.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.