Neidio i'r prif gynnwy

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd ar gyfer 2019.

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd.

Mae'r holl ddata'n ymwneud â 2019 - cyfnod cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Cynnyrch domestig gros (GDP)

Cyfanswm GDP y gweithle yng Nghymru yn 2019 oedd £77.5 biliwn, i fyny 2.7% ers 2018. Cynyddodd GDP ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.5%.

£24,586 oedd GDP y pen yng Nghymru yn 2019, i fyny 2.2% ers 2018.

Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) (cytbwys)

Cyfanswm GYG y gweithle yng Nghymru yn 2019 oedd £67.1 biliwn, i fyny 2.6% ers 2018. Cynyddodd GYG ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.6%.

£21,295 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2019, i fyny 2.1% ers 2018. Dyma’r trydydd cynnydd isaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU. Cynyddodd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.0%.

Roedd GYG gweithle'r pen yng Nghymru yn 2019 yn 72.6% o ffigwr y DU (ac eithrio extra-regio), yr ail isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Roedd hyn i lawr 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is eraill ar gael (awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau).

Nodyn

Mae GDP a GYG wedi ei roi ar brisiau sylfaenol cyfredol.

Nodyn adolygu

Mae'r ystadegau hyn wedi'u diwygio oherwydd cyhoeddwyd y cynnwys blaenorol mewn camgymeriad yn hytrach na'r data diweddaraf.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.