Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiwyd mesurau 'real' a’r mesurau ‘cyfaint cadwynog’ (ar bob lefel ddaearyddol) ar 3 Mehefin 2025 yn dilyn diwygiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Roedd hyn o ganlyniad i SYG yn canfod  problem gyda'r dull ar gyfer y datchwyddydd cynnyrch domestig gros (GDP) rhanbarthol. Nodir ffigyrau a ddiwygiwyd gyda [r]. Nid yw GDP ar brisiau marchnad presennol na'r holl amcangyfrifon GYG wedi eu heffeithio.

Roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gohirio cyhoeddi data GYG y pen oherwydd prosesu ychwanegol oedd ei angen ar gyfer y diweddariad i Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL).Ychwanegwyd y data GYG y pen i’r pennawd hwn ar 23 Mehefin 2025.

Cyflwyniad

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd.

Cynnyrch Domestig Gros (GDP)

Yn 2023, amcangyfrifwyd mai cyfanswm GDP yng Nghymru oedd £92.8 biliwn, mewn prisiau cyfredol. Cynyddodd GDP yng Nghymru o 0.6% [r] rhwng 2022 a 2023 mewn mesurau cyfaint cadwynog, yn dilyn cynnydd o 3.4% [r] yn 2022. 

Yn 2023, amcangyfrifwyd fod GDP ar gyfer y DU wedi cynyddu 0.3% yn nhermau real yn dilyn cynnydd o 4.8% yn 2022. 

Nododd holl wledydd a rhanbarthau'r DU dwf negyddol yn 2020 oherwydd effaith economaidd eang pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac yna adferiad rhannol yn 2021.

O bedair gwlad y DU, Cymru welodd yr ail gynnydd lleiaf mewn GDP real o 0.6% [r] rhwng 2022 a 2023, yn dilyn Lloegr ar 0.5% [r].

Gostyngodd GDP real y pen yng Nghymru gan 0.4% [r] yn 2023 o’i gymharu â 2022 a roedd yn £29,316 ym mhrisiau presennol.

Gwerth Ychwanegol Gros (GYG, Cytbwys)

Cyfanswm GYG Cymru yn 2023 oedd £81.5 biliwn, gostyngiad o 0.1% ers 2022 a gostyngiad o 1.2% ers 2019. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 0.3% ar gyfer y DU, dros yr un cyfnod, a 2.6% ers 2019.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is eraill ar gael (awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau).

£25,742 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2023, i fyny 7.6% ers 2022. Cynyddodd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 8.2%.

Roedd GYG gweithle'r pen yng Nghymru yn 2023 yn 72.2% o ffigwr y DU (ac eithrio extra-regio), yr ail isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Mae hyn yn debyg, yn gyffredinol, i'r blynyddoedd blaenorol.

Nodiadau

  • Mae GDP a GYG wedi ei roi ar brisiau sylfaenol cyfredol.
  • Caiff effeithiau chwyddiant GDP a GYG eu dileu yn nhermau real drwy ddal prisiau drwy gydol y gyfres ar y lefel mewn blwyddyn sylfaen ddewisol.
  • Roedd y cyhoeddiad hwn yn arfer cyflwyno ffigurau GYG mewn prisiau cyfredol. Fodd bynnag, rydym wedi newid hyn i dermau real i sicrhau cysondeb gyda’r ffigurau GDP ac i gymryd i ystyriaeth effeithiau chwyddiant.
  • Bydd y setiau data manwl ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099