Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2024
Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd ar gyfer 2025.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi gohirio cyhoeddi data Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) y pen a GYG a cynnyrch domestig gros (GDP) ar lefelau daeryddol o ganlyniad i fater yn ymwneud â’u prosesau. Pan fydd SYG yn cyhoeddi’r data sy’n weddill, fe wnawn ddiweddaru’r cyhoeddiad hwn gyda’r ffigyrau GYG y pen, a byddwn yn diweddaru’r setiau data StatsCymru.
Cynnyrch Domestig Gros (GDP)
Yn 2024, amcangyfrifwyd mai cyfanswm GDP yng Nghymru oedd £100.3 biliwn, mewn prisiau cyfredol.
Mewn termau real, cynyddodd GDP yng Nghymru o 0.5% rhwng 2023 a 2024, yn dilyn cynnydd o 1.1% yn 2023. Yn 2024, amcangyfrifwyd fod GDP ar gyfer y DU wedi cynyddu 1.1% yn dilyn cynnydd o 0.3% yn 2023.
O 4 gwlad y DU, Cymru welodd yr cynnydd lleiaf mewn GDP real o 0.5% rhwng 2023 a 2024.
£31,484 oedd GDP y pen yng Nghymru yn 2024 mewn prisiau cyfredol. Mewn termau real, roedd hwn yn ostyngiad o 0.1% o’i gymharu â 2023.
Gwerth Ychwanegol Gros (GYG, Cytbwys)
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm GYG Cymru yn 2024 oedd £87.4 biliwn mewn prisiau cyfredol. Mewn termau real, roedd hyn yn gynnydd o 0.5% ers 2023. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 1.2% ar gyfer y DU, dros yr un cyfnod.
Nodiadau
- Caiff effeithiau chwyddiant GDP a GYG eu dileu yn nhermau real drwy ddal prisiau drwy gydol y gyfres ar y lefel mewn blwyddyn sylfaen ddewisol.
- Mae’r data ar gyfer 1998 i 2024 ar gael ar wefan SYG.

