Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Hydref i Ragfyr 2018.

Mae’r ystadegau yn arbrofol ac mae anweddolrwydd y data chwarterol yn ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau byrdymor.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd gynnyrch domestig gros yng Nghymru 0.3% yn Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018 o gymharu â Chwarter 3. Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd roedd cynnydd o 0.2%. 
  • O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru oedd â'r ail gynnydd mwyaf mewn allbwn yn Chwarter 4 2018.
  • Roedd cynnydd yn wan yn y sectorau cynhyrchu (0.0%) a gwasanaethu (0.1%) ac yn gryfach yn y sector adeiladu (3.3%). 
  • Dros yr hir dymor, gwelodd Gymru gyfanswm cynnydd gynnyrch domestig gros o 2.3% yn 2018, o gymharu â 1.5% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. 
  • Dros y flwyddyn bu tyfiant cryf yn y sector adeiladu (17.0%), cynnydd o 1.9% yng ngwasanaethu a gostyngiad o 0.8% yng nghynhyrchu.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.