Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Hydrefi Ragfyr 2019.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2019Ch4. Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod yr achos coronafeirws (COVID-19).

Mae’r ystadegau yn arbrofol ac mae anweddolrwydd y data chwarterol yn ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau byrdymor.

Newid dros y tymor byrrach

Gostyngodd cynnyrch domestig gros (CDG) yng Nghymru 1.0% yn chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 2019 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Gorffennaf i Medi 2019). Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, yr oedd CDG yn ddigyfnewid.

O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru a gafodd y gostyngiad ail fwyaf mewn allbwn yn chwarter 4 2019.

Gwelwyd cynnydd yn y sector adeiladu o 0.4%, ond gwelwyd ostyngiad yn y sectorau gwasanaethau a chynhyrchu o 1.1% a 0.9% yn y drefn honno

Newid dros y tymor hwy

0.5% o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, a gwelodd y DU gyfan dwf CDG o 0.9%.

Dros y flwyddyn bu twf yn y sector gwasanaethau (0.5%) a gostyngiad o 3.4% yn y sectorau adeiladu a  chynhyrchu.

Nodyn

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ystadegau arbrofol yma am y tro cyntaf ym mis Medi 2019.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Alex Fitzpatrick

Rhif ffôn: 0300 025 9016

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.