Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Hydref i Ragfyr 2020.

Mae cynnyrch domestig gros (CDG) yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.

Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.

Newid dros y chwarter

Cynyddodd cynnyrch domestig gros (CDG) yng Nghymru 0.9% yn chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2020 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Gorfennaf i Fedi 2020).

Dyma’r ail gynnydd lleiaf ymhlith gwledydd y DU. Daw’n dilyn y cynnydd mwyaf ar record yn chwarter 3, 2020 wrth i’r economi weld rhywfaint o adferiad o’r gostyngiadau mawr yn chwarter 2 ar ddechrau’r pandemig.

Nodyn

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi oedi cyn diweddaru'r gyfres amser rhwng Chwarter 1 2012 a Chwarter 3 2020 i ganolbwyntio ar ddatblygu dulliau o wella ansawdd data a lleihau amlder y diwygiadau.

O ganlyniad, mae’r data yn y datganiad hwn wedi'u diweddaru i gynnwys Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2020 ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i gyfnodau data cynharach, gan gynnwys alinio â Chyfrifon Rhanbarthol Blynyddol neu Gyfrifon Gwladol Chwarterol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. O'r herwydd, mae'r sylwebaeth wedi'i chyfyngu i newidiadau chwarter chwarter o Chwarter 3 2020 i Chwarter 4 2020.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.