Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022.

Mae cynnyrch domestig gros (GDP) yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.

Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.

Prif bwyntiau

Newid dros y tymor byrrach

  • Ni newidiodd GDP yng Nghymru ym mis Ionawr hyd at fis Mawrth 2022 o'i gymharu â'r chwarter blaenorol (Hydref i Ragfyr 2021). Mae hynny'n cymharu â chynnydd o 0.6% yn chwarter 4 2021.
  • Gwelodd yr Alban, Lloegr, a Gogledd Iwerddon i gyd gynnydd dros yr un cyfnod amser (cynnydd o 0.9%, 0.8% ac 0.6% yn ôl eu trefn).
  • Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, cynyddodd GDP 0.7%
  • Gwelwyd cynnydd o 2.2% yn y sector adeiladu, ni welwyd newid yn y  sector gwasanaethau a chafwyd gostyngiad o1.1% yn y sector cynhyrchu.  

Newid dros y tymor hwy

  • Cynyddodd GDPyng Nghymru 11.1% ym mis Ionawr hyd at fis Mawrth 2022 o'i gymharu â'r un chwarter y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd GDPar gyfer y DU 10.8% dros yr un cyfnod amser.
  • Dangosodd y pedair gwlad yn y DU dwf positif mewn CDG dros y tymor hwy. Cymru oedd â’r ail gynnydd mwyaf (11.1%), a’r Alban oedd a’r uchaf (12.8%)
  • Roedd gan bob rhanbarth a gwlad yn y DU dwf blynyddol mwy yn Chwarter 1 2022 o'i gymharu â thwf blynyddol rhwng Chwarter 4 (Hydref i Rhag) 2021 a'r un chwarter flwyddyn ynghynt. Dylid nodi, fodd bynnag, fod yr amcangyfrifon yma'n debygol o barhau i adlewyrchu effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19).
  • Cafwyd tyfiant cryf yn y sector adeiladu a gwasanaethau  (13.4% a 13.6% yn y drefn honno). Cynyddodd y sector cynhyrchu 1.8% hefyd.

Nodyn

Mae'r datganiad hwn yn ymgorffori diwygiadau i amcangyfrifon blaenorol a gyhoeddwyd ar 1 Medi 2022 gan fod y data prisiau cyfredol sylfaenol a data blwyddyn 2020 bellach yn cyd-fynd â'r cyfrifon cenedlaethol chwarterol GDP newydd a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2022. Nid yw amcangyfrifon bellach yn cyd-fynd yn 2020 gyda chyfrifon rhanbarthol Blynyddol gan fod y flwyddyn 2020 yn un dros dro pan y'u cyhoeddwyd ar 30 Mai 2022. Dyma'r datganiad cyntaf o'r data a gynhyrchir gyda'r dulliau newydd o gyfyngu i GDP y DU i ymgorffori amcangyfrifon GDP fesul diwydiant yn ogystal â rhanbarth felly bydd yn cynnwys diwygiadau sy'n deillio o'r dulliau newydd a'r alinio â GDP y DU.

Adroddiadau

Cyswllt

Joe Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.