Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Teitl yr adroddiad

Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y sectorau ôl-16: Gwerthuso Effeithiolrwydd Cynlluniau Hyfforddiant Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog i’r sector Addysg Bellach a Phrentisiaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Trosolwg

Comisiynwyd yr adroddiad thematig gan Is-adran Cymraeg 2050, a'r Grŵp Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y canlynol:

  • effeithiolrwydd cynlluniau hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer staff yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, a'r ffactorau sy'n galluogi neu'n rhwystro llwyddiant y cynlluniau hyn
  • y canllawiau a'r cymorth strategol ac ymarferol sydd ar gael i sefydliadau o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sut mae'r Coleg yn gwerthuso ac yn mesur effaith y cynlluniau hynny ac yn penderfynu ar gamau i'w gwella lle bo angen
  • enghreifftiau o'r arferion da sy'n bodoli ac sy'n werth eu rhannu ar draws sectorau
  • argymhellion ynghylch y ffyrdd gorau o ddarparu hyfforddiant o'r fath i staff a fyddai, yn ei dro, yn gosod y sylfaen ar gyfer cynyddu nifer y dysgwyr/myfyrwyr sy'n dymuno astudio'n rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod cynlluniau'r Coleg Cymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar yr ymarferwyr sy'n manteisio arnynt. Fodd bynnag, mae'r cynlluniau yn fwy effeithiol o ran targedu staff sydd â sgiliau iaith lefel isel ac sydd ar ddechrau eu taith ar hyd y continwwm iaith.

Ychydig iawn o effaith sydd ar ddatblygu sgiliau iaith ymarferwyr y tu hwnt i'r lefelau cychwynnol, ac mae hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd i fyfyrwyr a phrentisiaid ddefnyddio'r Gymraeg yn gyson yn eu dysgu.

Gwelwyd enghreifftiau o arferion da ar draws cynlluniau'r Coleg.

Roedd effaith y cynlluniau ar ei gorau pan fo'r canlynol yn digwydd:

  • mae arweinwyr ar bob lefel yn glir ynghylch pwysigrwydd strategol cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
  • mae'r hyfforddiant yn targedu staff sydd eisoes â sgiliau iaith cryf
  • mae colegau yn cynnig amser priodol i staff gyflawni hyfforddiant fel rhan o'u horiau dysgu a ddyrannwyd
  • mae arweinwyr yn cydnabod y Gymraeg fel sgìl ac, o ganlyniad, yn cynnig taliad cydnabyddiaeth i ymarferwyr sy'n meddu ar sgiliau addysgeg ddwyieithog uwch
  • mae ymdrechion staff i ddatblygu eu harferion addysgu wrth iddynt symud i fyny'r pyramid neu'r continwwm iaith yn cael eu cydnabod yn broffesiynol
  • mae canllawiau clir i staff ar sut i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg
  • mae gweithdrefnau arsylwi a sicrhau ansawdd y darparwr ei hun yn gadarn ac yn canolbwyntio ar y Gymraeg ac addysgeg ddwyieithog
  • mae'r ddarpariaeth a'r hyfforddiant yn cael eu haddasu yn unol ag anghenion staff

Mae cysylltiadau cryf a chefnogol rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a cholegau a darparwyr unigol. Fodd bynnag, nid oes gan y Coleg weithdrefnau digon cadarn ar waith i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer blaengynllunio, sicrhau ansawdd a monitro effaith hyfforddiant yn gyson ar draws darparwyr unigol ac yn genedlaethol.

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Argymhelliad 1

Cryfhau'r arweiniad a'r her i golegau a darparwyr prentisiaethau i gynyddu lefelau iaith ymarferwyr a’r cynnig i fyfyrwyr a phrentisiaid yn unol â’r pyramid, yn enwedig ar y lefelau uchaf.

Argymhelliad 2

Gweithio gyda phartneriaid perthnasol i ymestyn cynnig Sgiliaith i siaradwyr Cymraeg trwy greu hyfforddiant addysgeg ddwyieithog ddwys sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig.

Argymhelliad 3

Cydweithio yn strategol â cholegau, darparwyr prentisiaethau a phartneriaid perthnasol eraill i brif ffrydio mentrau arloesol i gydnabod gwerth y Gymraeg fel sgìl ychwanegol sy’n cael ei gydnabod yn ymarferol ac yn ariannol.

Argymhelliad 4

Cydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sicrhau bod darpariaeth Cymraeg Gwaith i ymarferwyr yn gyson â safonau’r sector Dysgu Cymraeg.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Argymhellion ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r rhain, ac rydym yn cytuno â’u cynnwys. Gofynnwyd i'r Coleg ddatblygu cynllun gweithredu i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad. Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am ariannu darpariaeth Gwaith Cymru yn y sector ôl-16, a gofynnwyd iddi weithio ar y cyd â'r Coleg i ddatblygu'r cynllun gweithredu.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â'r Coleg a'r Ganolfan Genedlaethol i drafod cynnydd y cynllun gweithredu ac i fonitro perfformiad yn erbyn targedau unwaith y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi.

Argymhellion ar gyfer colegau a darparwyr prentisiaethau

Argymhelliad 5

Cydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gysoni’r gefnogaeth a goresgyn y rhwystrau i ymarferwyr fynychu hyfforddiant yn rheolaidd.

Argymhelliad 6

Mireinio eu cynnig ar gyfer datblygiad proffesiynol i gynyddu sgiliau iaith Cymraeg ac addysgeg ddwyieithog ymarferwyr ar lefelau uchaf y pyramid.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae argymhellion 5 a 6 ar gyfer colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau, ac rydym yn cytuno â'u cynnwys. Bydd colegau a darparwyr yn cael eu hannog i weithio gyda'r Coleg i fwrw ymlaen â'r argymhellion.

Byddwn yn rhannu'r adroddiad â cholegau a darparwyr prentisiaethau ac yn eu gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion. Bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei drafod mewn cyfarfod o Fwrdd Strategol Ôl-16 y Coleg Cymraeg yn y dyfodol, un y mae cynrychiolwyr o'r colegau a darparwyr prentisiaethau yn bresennol ynddo.

Cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol ar 12 Mawrth, lle nododd yr ymrwymiadau canlynol:

  • Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cymwysterau Cymru, i ddatblygu a gweithredu cynllun cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol yn ei gyfanrwydd.
  • Byddwn yn gweithio gyda darparwyr a phartneriaid i gael dealltwriaeth well am sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg drydyddol, i wella cyfraddau recriwtio a chadw staff Cymraeg, ac i hyrwyddo dysgu proffesiynol fel bod mwy o staff yn hyderus i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Medr yn cynnull gweithgor o randdeiliaid allweddol i ddatblygu'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg, a bydd y grŵp hwn yn ymgynnull yn ystod yr wythnosau nesaf i ddechrau bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau hyn, ac yn bennaf i ddatblygu'r Cynllun Cenedlaethol.

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Medr

Argymhelliad 7

Cydweithio â r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau i adolygu a chysoni’r ffordd y mae categorïau iaith darpariaeth yn cael eu cofnodi.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Byddwn yn gweithio'n agos â Medr i nodi'r dulliau gorau o adolygu a sicrhau cysondeb yn y ffordd yr adroddir am addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei gorffori yn y gwaith o ddatblygu Cynllun Cenedlaethol Medr ar gyfer y Gymraeg y cyfeirir ato o dan Argymhellion ar gyfer colegau a darparwyr prentisiaethau uchod.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 27 Mawrth 2025, a gellir ei weld ar wefan Estyn.