Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad sy'n cyflwyno data yn ôl dull, lefel a phwnc astudio, gweithgaredd, cyflog a rhanbarth cyflogaeth.

Mae’r arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) yn gofyn ymadawyr o addysg uwch beth maent yn gwneud chwe mis ar ôl graddio. Mae oddeutu pedwar o bob pump sy’n graddio yn cwblhau’r arolwg.

Yn sgil  adolygiad mawr, mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn rhagweld mai hon fydd y flwyddyn olaf y byddant cyhoeddi allbynnau Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch. Mae arolwg newydd ar Hynt Graddedigion wrthi'n cael ei roi ar waith, a bydd yn cael ei gynnal ymhlith graddedigion oddeutu 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Disgwylir y bydd y set gyntaf o ddata Hynt Graddedigion yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2020.

Prif bwyntiau

  • Fe wnaeth 20,710 ymadael â phrifysgolion Cymru y mae eu cyrchfan yn wybyddus. Roedd 71% yn gweithio yn bennaf neu ar fin dechrau gweithio ar ddyddiad y cyfrifiad.
  • Fe wnaeth 18,130  yn hanu o Gymru ymadael â phrifysgolion Cymru y mae eu cyrchfan yn wybyddus. Roedd 74% yn gweithio yn bennaf neu ar fin dechrau gweithio ar ddyddiad y cyfrifiad.
  • Meddygaeth a deintyddiaeth, pensaernïaeth, adeiladu a chynllunio yw'r pynciau oedd â'r gyfradd ddiweithdra isaf (0.7%) o blith unrhyw bwnc ym mhrifysgolion Cymru. 
  • Cyfrifiadureg oedd â'r gyfradd ddiweithdra uchaf (5.2%) o blith unrhyw bwnc ym mhrifysgolion Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.