Neidio i'r prif gynnwy

Mae dysgwyr ac athrawon ym mhob rhan o Gymru bellach yn mwynhau adeiladau ysgol a choleg newydd a modern, diolch i Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21fed ganrif Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fod y rhaglen wedi cyrraedd carreg filltir bwysig ar ôl cwblhau'r 100fed prosiect ym Mand A, y don gyntaf o fuddsoddiad.

Roedd yr Ysgrifennydd Addysg yn siarad yng nghynhadledd gyntaf Adeiladau Addysg Cymru, a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyda 63 cynllun arall yn mynd rhagddynt neu wedi'u cymeradwyo, mae Band A eisoes ar y trywydd iawn i ragori ar ei darged o ailadeiladu neu ailwampio 150 o ysgolion a cholegau.

Mae hyn yn fuddsoddiad o £1.4 biliwn yn y seilwaith addysg ar draws Cymru sydd wedi cwmpasu amrywiaeth eang o gynlluniau sy'n darparu ar gyfer anghenion gwahanol pob dysgwr a chymuned.

Dywedodd Kirsty Williams:

“O gampysau coleg newydd trawiadol yng Nghaerdydd ac Aberdâr i ysgolion newydd ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn Llandysul a Threffynnon, mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif yn parhau i ddarparu ar gyfer dysgwyr ar hyd a lled Cymru.

“Y Rhaglen hon yw'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a cholegau ers y 1960au. Drwy fuddsoddi ar y cyd ag awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach, rydym wedi gallu creu adeiladau sy'n diwallu anghenion dysgwyr, athrawon a'r gymuned ehangach ac yn cynnig y math o gyfleusterau sy'n gwbl addas ar gyfer y 21ain ganrif.

“Ond mae mwy i ddod. Bydd Band B y rhaglen yn dechrau ym mis Ebrill 2019 a bydd yn fwy uchelgeisiol fyth, gan fuddsoddi £2.3 biliwn pellach.

“Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod gennym yr ysgolion a'r colegau o'r maint cywir yn y lleoliad cywir; ac adeiladau sydd wedi'u cynllunio'n dda, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni sy'n cynnig digon o leoedd i ddarparu addysg Gymraeg a Saesneg ac yn sicrhau gwerth da am arian.

“Rwy'n falch o ddathlu'r cyflawniad hwn ac edrychaf ymlaen at ragor o newyddion da wrth i ni symud ymlaen i ail gam y Rhaglen.”