Neidio i'r prif gynnwy

Cewch fynd ar gwrs i leihau hyd eich gwaharddiad:

  • os ydych wedi eich cael yn euog o drosedd yfed a gyrru
  • os ydych wedi eich gwahardd am ddeuddeg mis neu fwy

Gall y cwrs:

  • leihau eich gwaharddiad hyd at 25%
  • lleihau premiwm eich yswiriant
  • lleihau'r tebygolrwydd y byddwch yn aildroseddu

Dim ond ar ddiwrnod eich dedfrydu y byddwch yn cael cynnig y cyfle i fynd ar y cwrs. Os nad ydych yn cael cynnig, dylech ofyn.

Y cwrs:

  • mae'n costio rhwng £150 a £250, gan ddibynnu ar y darparwr
  • fe'i cynhelir dros dri diwrnod gwahanol dros gyfnod o 14 o ddiwrnodau neu fwy
  • bydd yn eich helpu i ddeall sut mae alcohol yn effeithio ar eich gallu i yrru

Gall y llysoedd gynnig yr opsiwn o fynd ar gwrs ichi am ail drosedd, ond nid yw'n debygol y byddant yn ei gynnig os ydych yn troseddu am y trydydd tro.

Cewch newid darparwr y cwrs ar ôl ichi ddweud wrth y llys pa ddarparwr yr ydych am ei ddefnyddio.