Neidio i'r prif gynnwy

Mae enw da diwydiant bwyd a diod llwyddiannus Cymru wedi cael hwb arall wedi i bysgota mewn cyryclau ar gyfer sewin gael statws Enw Bwyd Gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n ymuno â chynnyrch gwych arall o Gymru megis Eogiaid y Gorllewin Wedi'u Dal o Gwrwgl, Cerrig Gleision Conwy, Cig Oen o Gymru a Halen Môn, sydd bellach wedi derbyn statws Enw Bwyd Gwarchodedig.  Mae cyfanswm o unarddeg o gynnyrch o Gymru bellach wedi derbyn statws enw bwyd gwarchodedig.  

O dan gynllun enwau bwyd gwarchodedig yr UE mae cynnyrch bwyd a diod penodol yn cael eu gwarchod ledled Ewrop rhag cael eu hefelychu a’u camddefnyddio.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Cymdeithas Cyryclau a Physgotwyr Rhwydi Caerfyrddin dros y bedair blynedd diwethaf yn ystod y broses gymhleth faith o gael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Cwch bychan crwn yw cwragl, sy’n debyg i siâp hanner ŵy Pasg, wedi’i wneud yn draddodiadol o goed helyg neu ynn wedi’u plethu ac yn wreiddiol roedd wedi’i orchuddio â chroen anifail, ond mae bellach wedi’i orchuddio â chalico a chanfas a thar.  Yr hyn sy’n unigryw i gyryglau yw bod yn rhaid i’r rhwydi pysgota fod wedi’u gwneud â llaw, ac mae rheolau caeth ynghylch eu maint sy’n cael ei orfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan olygu bod modd i’r pysgod llai nofio drwyddynt.  

Caiff y sewin ei ddal o fewn tymor 5 mis, sy’n dechrau ar 1 Mawrth ar yr Afon Tywi a’r Taf a’r 1af Ebrill ar yr Afon Teifi, ond nid oes hawl i bysgota ar benwythnosau.  

Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Dwi’n falch iawn bod pysgota mewn cyryclau am sewin wedi derbyn statws Enw Bwyd Gwarchodedig.  Hoffwn longyfarch Cymdeithas Cyryclau a Physgotwyr Rhwydi Caerfyrddin ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu eu cefnogi yn ystod y broses o wneud cais.  

“Mae ein basged o Enwau Bwydydd Gwarchodedig yn parhau i dyfu, sy’n dangos ymroddiad ein cynhyrchwyr i sicrhau safon uchel.  Mae’r gydnabyddiaeth hon yn bwysig, oherwydd wrth inni baratoi at ddyfodol y tu allan i’r UE, byddwn yn gallu dangos i farchnadoedd newydd posibl fod Cymru yn cynhyrchu ystod eang o fwyd a diod o safon uchel."

Ychwanegodd Julie Rees, Ysgrifennydd Cymdeithas Cwrwgl a Rhwydwyr Caerfyrddin:

“Mae cyryglau wedi’u defnyddio ar gyfer pysgota afonydd Gorllewin Cymru ers cannoedd o flynyddoedd. Mae derbyn y statws PGI ar gyfer Sewin a gaiff ei ddal drwy bysgota cwrwgl yng Ngorllewin Cymru yn gryn gamp ar gyfer ein grŵp bach o bysgotwyr cwrwgl. Rydym hefyd yn falch iawn fod hen draddodiad a threftadaeth pysgota cwrwgl wedi’i gydnabod a hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cymorth a’u cefnogaeth gydol y broses hir.”