Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn, y cytunwyd arno ar y cyd gan Drysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn dangos uchelgais parhaus y ddwy lywodraeth i sicrhau tryloywder llawn yn fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru ac i wella dealltwriaeth ehangach ohono. Mae'r datganiad hwn yn rhoi esboniad o sut y mae'r broses o gysoni treth incwm ar gyfer 2021-2022 yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-2025.

Cysoni ar gyfer Treth Incwm 2021 i 2022

Heddiw, cyhoeddodd CThEF ystadegau alldro Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2021-2022.

Mae'r ffigurau yn y cyhoeddiad hwn yn darparu refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a'r refeniw Treth Incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU a ddefnyddir i gyfrifo Addasiad  Llywodraeth Cymru i'r Grant Bloc, fel y'i nodir yn y Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae hyn yn caniatáu i'r cysoniad Treth Incwm sy'n gymwys i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025 gael ei gyfrifo.

Mae cyfrifo'r cysoniad yn gofyn am gymharu'r ffigurau a ragwelir a'r ffigurau alldro ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru ac ar gyfer yr Addasiad i'r Grant Bloc. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhagolygon a'r alldro yn cael ei gymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru yn 2024-25. Nodir cefndir pellach isod, ar ôl y cyfrifiadau.

Mae Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr Addasiadau i'r Grant Bloc yn cael eu cyfrifo ‘fesul band’ (ar gyfer pob un o'r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae'r tabl isod yn crynhoi cyfanswm effaith y cysoniad, tra bo cyflwyniad manylach o'r ffigurau gyda dadansoddiad ‘fesul band’ i'w weld yn yr adran gefndir.

Oherwydd adolygu amcangyfrifon o'r boblogaeth yn dilyn Cyfrifiad 2021, mae'r cysoni hwn hefyd yn cymryd i ystyriaeth yr asesiad diwygiedig o faint y boblogaeth yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon o 2019 hyd heddiw, fel y'i cyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2023. Nodir manylion pellach am sut y mae adolygu amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi effeithio ar y cysoni isod, ar ôl y cyfrifiadau.

Bydd y ddwy gydran gysoni yn cael yr effeithiau canlynol, fel y crynhoir yn y tabl isod:

  • Addasiad i'r Grant Bloc: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2021-2022 felly bydd hyn yn cynyddu'r Addasiad i'r Grant Bloc (a thrwy oblygiad yn lleihau £213m ar grant bloc Llywodraeth Cymru) yn 2024-2025.
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2021-22 felly bydd hyn yn cynyddu £320m ar hunan-ariannu Llywodraeth Cymru yn 2024-2025.

Effaith y cysoni net yw cynnydd o £107m yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025.

Cysoni Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-2022 a fydd yn effeithio ar Gyllideb 2024-2025
Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021 i 2022 (£m) Refeniw Addasiad i'r grant bloc Sefyllfa'r Gyllideb Net
Rhagolygon adeg Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 i 2022 2,064 -2,099 -35
Alldro 2,384 -2,312 72
Newid / cysoniad 320 -213 107

Noder: efallai na fydd y rhifau'n unioni oherwydd talgrynnu.

Cefndir

Yn dilyn Deddf Cymru 2017, cafodd pwerau trethu ychwanegol eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2019, cafodd cyfraddau treth incwm y DU ar incwm di-ddifidend nad yw'n gynilion eu lleihau 10 ceiniog yn y bunt i drigolion Cymru. Enillodd Llywodraeth Cymru'r pŵer i bennu cyfradd Gymreig ym mhob band yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu'r cyfraddau hynny yn 10 ceiniog yn y bunt. Mae CThEF yn gyfrifol am gasglu'r holl Dreth Incwm, gan gynnwys cyfraddau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n rhannol gan grant bloc llywodraeth y DU, ac yn rhannol drwy godi refeniw o drethi datganoledig a benthyca.

Mae'r grant bloc yn cael ei bennu gan Fformiwla Barnett hirsefydlog.

Mae'r grant bloc bellach wedi'i addasu i adlewyrchu effaith trosglwyddo mwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Addasiadau Grant Bloc hyn (BGAs) yn ddidyniadau ar gyfer pwerau trethi. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl refeniw o drethi datganoledig, mae ganddi Gronfa Wrth Gefn i Gymru a phwerau benthyca cyfalaf ac adnoddau gyda therfynau y cytunwyd arnynt.

Ar gyfer benthyca adnoddau, mae gan Lywodraeth Cymru'r  pŵer i fenthyca ar gyfer gwallau a ragwelir mewn perthynas â threthi datganoledig sy'n deillio o ragolygon o dderbyniadau yng Nghymru a rhagolygon cyfatebol y DU ar gyfer yr Addasiadau i'r Grant Bloc, gyda therfyn blynyddol o £200m.

Mae'r refeniw o gyfraddau Cymru a'r BGA cysylltiedig a ddefnyddir yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ragolygon a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r rhain yn cael eu pennu cyn y flwyddyn o dan sylw.

Fel y nodir yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru, bydd alldro Treth Incwm a gyhoeddir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CThEF, a gyhoeddir fel arfer tua 16 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, yn cael ei ddefnyddio wedyn i benderfynu ar addasiadau i gyfrif am wall a ragwelir drwy broses gysoni. Yna caiff unrhyw addasiadau sy'n ofynnol eu cymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol wedyn.

Yn dilyn allbynnau'r Cyfrifiad yn 2021, mae Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd i ystyriaeth diwygiadau i amcangyfrifon o'r boblogaeth ar gyfer y cysoni hwn. Mae amcangyfrifon o'r boblogaeth yn rhan annatod o gyfrifo'r Addasiadau i'r Grant Bloc (BGAs), gan eu bod yn llywio asesiad o gymharedd refeniw treth yng Nghymru a gweddill y DU adeg datganoli treth, a mynegeio'r Addasiad i'r Grant Bloc dros amser. Yng ngoleuni'r Cyfrifiad yn 2021, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi amcangyfrifon wedi'u hailseilio o'r boblogaeth yng Nghymru/Lloegr a Gogledd Iwerddon yn y drefn honno, rhwng 2012-2020. O ganlyniad, mae Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r ffactorau cymharedd a ddefnyddir i gyfrifo'r Addasiadau i'r Grant Bloc i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth fwyaf cywir o faint cymharol y boblogaeth adeg datganoli trethi. Dangosir effaith hyn yn y tablau isod.

Newidiadau yn y ffactorau cymharedd o fewn y cyfrifiad o'r addasiad i'r grant bloc ar gyfer treth incwm
Band Treth Incwm Ffactor cymharedd cyn y Cyfrifiad Ffactor cymharedd ar ôl y Cyfrifiad
Sylfaenol 79.7% 81.3%
Uwch 38.2% 39.0%
Ychwanegol 11.2% 11.4%

Gan ystyried refeniw treth ac amcangyfrifon o'r boblogaeth, bydd cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-2022 yn cael ei gymhwyso i Gyllideb Cymru 2024-2025. Mae'r cysoniad yn cwmpasu Cyfraddau Refeniw Treth Incwm Cymru a'r BGA.

Dadansoddiad manwl o gysoni alldro Treth Incwm Llywodraeth Cymru
£m Sylfaenol Uwch Ychwanegol Cyfanswm
BGA Rhagolwg -1,814 -242 -44 -2,099
Alldro -1,974 -279 -59 -2,312
Cysoni -161 -37 -15 -213
 
Refeniw Rhagolwg 1,779 241 44 2,064
Alldro 2,030 293 62 2,384
Cysoni 250 51 18 320
 
Cyllid net Rhagolwg -34 -1 0 -35
Alldro 55 14 3 72
Cysoni 89 14 3 107

Noder: efallai na fydd y rhifau'n unioni oherwydd talgrynnu.