Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn, y cytunwyd arno ar y cyd gan Drysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn dangos uchelgais parhaus y ddwy lywodraeth i sicrhau tryloywder llawn yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru ac i wella dealltwriaeth ehangach ohono ac yn benodol y broses gysoni. Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut y mae'r broses o gysoni Treth Incwm ar gyfer 2024-2025 yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2027-2028.

Cysoni ar gyfer Treth Incwm 2024-2025

Ar 9 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd CThEF ystadegau alldro Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2024-2025.

Mae'r cyhoeddiad yn darparu ffigurau ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a'r refeniw Treth Incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU a ddefnyddir i gyfrifo Addasiad Grant Bloc (BGA) Treth Incwm Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir yn y Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae hyn yn caniatáu i'r cysoniad Treth Incwm sy'n gymwys i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-2028 gael ei gyfrifo. Mae'r cysoniad yn rhan arferol o weithredu'r Fframwaith Cyllidol ac mae'n sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar refeniw Treth Incwm gwirioneddol, yn hytrach na rhagolygon.

Mae cyfrifo'r cysoniad yn gofyn am gymharu'r ffigurau a ragwelir a'r ffigurau alldro ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru ac ar gyfer yr Addasiad i'r Grant Bloc am y flwyddyn 2024-2025. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhagolygon a'r alldro yn cael ei gymhwyso i Gyllideb a chyllid Llywodraeth Cymru yn 2027-2028. Nodir cefndir pellach isod, ar ôl y cyfrifiadau.

Mae Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr Addasiadau i'r Grant Bloc yn cael eu cyfrifo ‘fesul band’ (ar gyfer pob un o'r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae'r tabl isod yn crynhoi cyfanswm effaith y cysoniad, tra bo cyflwyniad manylach o'r ffigurau gyda dadansoddiad ‘fesul band’ i'w weld yn yr adran gefndir.

Mae'r cysoni hwn hefyd yn ystyried yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diwygiedig a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 29 Gorffennaf 2026.

Bydd y ddwy gydran gysoni yn cael yr effeithiau canlynol, fel y crynhoir yn y tabl isod:

  • Addasiad i'r Grant Bloc: Mae'r alldro yn is nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2024-2025, felly bydd hyn yn lleihau’r Addasiad i'r Grant Bloc (a thrwy hynny gynyddu grant bloc Llywodraeth Cymru) o £17m yn 2027-2028.
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2024-2025, felly bydd hyn yn golygu cynnydd o £129m yn hunanariannu Llywodraeth Cymru yn 2027-2028.

Effaith y cysoni net yw cynnydd o £146m yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-2028.

Y cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2024-2025 a fydd yn effeithio ar Gyllideb 2027-2028
Treth Incwm 2024 i 2025 (£m)RefeniwAddasiad i'r Grant BlocSefyllfa'r Gyllideb Net
Rhagolygon adeg Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-20253,171-3,017154
Alldro3,300-3,001299
Newid/cysoniad12917146

Noder: efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio oherwydd talgrynnu.

Y cefndir

Yn dilyn Deddf Cymru 2017, cafodd pwerau trethu ychwanegol eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2019, cafodd pob un o gyfraddau Treth Incwm y DU ar incwm nad yw'n deillio o gynilion na difidendau (NSND) eu lleihau 10 ceiniog yn y bunt i drigolion Cymru. Enillodd Llywodraeth Cymru'r pŵer i bennu cyfradd Gymreig ym mhob band yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu'r cyfraddau hynny yn 10 ceiniog yn y bunt. Mae CThEF yn gyfrifol am gasglu'r holl Dreth Incwm, gan gynnwys cyfraddau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n rhannol gan grant bloc Llywodraeth y DU, ac yn rhannol drwy godi refeniw o drethi datganoledig a benthyca.

Mae'r grant bloc yn cael ei bennu gan y fformiwla Barnett hirsefydlog.

Mae'r grant bloc bellach wedi'i addasu i adlewyrchu effaith trosglwyddo mwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Addasiadau Grant Bloc hyn yn ddidyniadau ar gyfer pwerau trethi. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl refeniw o drethi datganoledig, mae ganddi Gronfa Wrth Gefn i Gymru ac mae ganddi bwerau benthyca cyfalaf ac adnoddau gyda therfynau y cytunwyd arnynt.

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca adnoddau y gall ei ddefnyddio i gwmpasu gwallau a ragwelir mewn perthynas â derbyniadau treth datganoledig ac addasiadau cyfatebol i'r Grant Bloc, gyda therfyn blynyddol o £200m.

Mae'r refeniw o gyfraddau Cymru a'r addasiadau cysylltiedig i'r Grant Bloc a ddefnyddir yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ragolygon a gynhyrchir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r rhain yn cael eu pennu cyn y flwyddyn o dan sylw.

Fel y nodir yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru, bydd yr alldro Treth Incwm a gyhoeddir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CThEF, a gyhoeddir fel arfer tua 16 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, yn cael ei ddefnyddio wedyn i benderfynu ar addasiadau i gyfrif am wall rhagolygon drwy broses gysoni. Yna caiff unrhyw addasiadau sy'n ofynnol eu cymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol wedyn.

O dan y broses hon, bydd cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2024-2025 yn cael ei gymhwyso i Gyllideb Cymru ar gyfer 2027-2028. Mae'r cysoniad yn cwmpasu refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru a'r Addasiad i'r Grant Bloc.

Dadansoddiad manwl o gysoni alldro Treth Incwm Llywodraeth Cymru

Addasiad i'r Grant Bloc
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Rhagolwg-2,589-353-76-3,017
Alldro-2,560-355-86-3,001
Cysoniad28-2-1017
Refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Rhagolwg2,6454251013,171
Alldro2,7474371163,300
Cysoniad1021215129
Cyllid Net
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Rhagolwg567325154
Alldro1868330299
Cysoniad130105146

Noder: efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio oherwydd talgrynnu.