Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn ymweld â Dulyn i bwysleisio bod cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn bwysicach nag erioed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn cwrdd â'r Gweinidog Gwladol dros Dwristiaeth a Chwaraeon, Brendan Griffin, ac yn dathlu'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn ystod derbyniad Dydd Gŵyl Dewi. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Rydyn ni mor awyddus ag erioed i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon; mae gennym lawer o bethau mewn cyffredin o ran ein traddodiadau, ein diwylliannau a'n heconomïau. Mae Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn bwysicach nag erioed. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd Conswl Iwerddon yn ailagor yng Nghaerdydd hefyd yn dangos hyn."

Hefyd bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn cwrdd â Phrif Weithredwr Twristiaeth Iwerddon, Niall Gibbons, cyn derbyniad gan Lywodraeth Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, lle bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn cael ei lofnodi. Bydd y memorandwm yn adlewyrchu partneriaeth newydd rhwng y ddau sefydliad diwylliannol.

Bydd gwesteion yn y derbyniad hefyd yn cael rhagolwg ar ymgyrch farchnata Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru, a fydd yn mynd yn fyw yn Iwerddon ar 4 Mawrth ar deledu a radio ar gais ac ar draws platfformau digidol. Mae Croeso Cymru hefyd wedi dechrau partneriaethau gyda Stena Line ac Irish Ferries – bydd hyn yn annog rhagor o ymwelwyr o Iwerddon i ddarganfod Cymru.
Eleni, am y tro cyntaf, mae Croeso Cymru wedi cyflwyno elfennau o'r Wyddeleg i'r ymgyrch farchnata Blwyddyn Darganfod, gan adlewyrchu'r berthynas hir ac arbennig rhwng ein gwledydd.

Bydd y noson hefyd yn dathlu'r Gymraeg – un o'r conglfeini cyntaf i gysylltu a rhwymo Cymru ac Iwerddon â'i gilydd fel gwledydd Celtaidd. Fel rhan o Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO, bydd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi menter ddiwylliannol newydd hefyd. Mae Tylwyth yn brosiect gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Pontio Prifysgol Bangor, a Fidget Feet, cwmni perfformio syrcas o Iwerddon a leolir yn Nulyn.  Wedi'i hysgrifennu gan Gwyneth Glyn, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd, mae'n sioe syrcas gerddorol gyfoes sy'n dod â hanes rhai o gymeriadau chwedlonol Cymru yn fyw. Bydd yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ym mis Awst.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Pan fydd y DU yn gadael yr UE bydd y math hwn o gydweithredu'n bwysicach byth, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ar bartneriaethau arloesol, tymor hir.   Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ein gweithgareddau yn Iwerddon, a byddwn yn parhau i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod yn tyfu ac yn ffynnu gyda'r doreth o gyfleoedd mae'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn eu cynnig."