Neidio i'r prif gynnwy

Mae cytundeb ar gyfer diwydiant pysgota Cymru wedi cael ei sicrhau a fydd yn diogelu stoc pysgod Cymru, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o dîm trafod Gweinidogol y DU, cynorthwyodd Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cytundeb yng Nghyngor Pysgodfeydd yr UE ym Mrwsel, a ddaeth i ben yn oriau mân bore heddiw.        

Sicrhaodd Llywodraeth Cymru gytundebau ar gyfer y canlynol: 

  • osgoi gwaredu diangen ar ddraenogod y môr a gwarchod buddiannau pysgotwyr masnachol a hamdden           
  • cynyddu cwotâu ar gyfer penfreision a lledod ym Môr Iwerddon, a lledod chwithig a phenfreision ym Môr Hafren, gan barhau i gyrraedd targedau cynaliadwyedd                     
  • cynyddu’r cwota’n sylweddol ar gyfer morgathod o bob math.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Hoffwn ddiolch i’r pysgotwyr masnachol a’r cynrychiolwyr pysgota hamdden sydd wedi helpu gyda thynnu sylw at y prif broblemau cysylltiedig â draenogod y môr a stoc allweddol arall yng Nghymru. O ganlyniad, roedd modd i ni gyflwyno achos cadarn o Gymru i’r Llywyddiaeth ac i’r Comisiwn, ochr yn ochr â chydweithwyr o Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill. 

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol ni’n cael eu rheoli’n gynaliadwy. Mae’r cytundeb ystyrlon yma’n cyfrannu llawer at gyflawni’r amcan hwnnw drwy sicrhau canlyniad positif i gymunedau arfordirol y mae eu heconomi a’u bywoliaeth yn dibynnu cymaint ar y môr, gan warchod amgylchedd gwerthfawr y môr ar yr un pryd.      

“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i egwyddorion allweddol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac mae’r trafodaethau yr wythnos yma’n tanlinellu pwysigrwydd dilyn gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn. 

“Mae sicrhau’r cydbwysedd priodol yn y trafodaethau bob amser yn heriol. Mae’r cytundeb yma’n sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng gwarchod buddiannau economaidd pysgotwyr ar raddfa fechan a physgotwyr hamdden a’r angen am symud stoc tuag at sefyllfa ble gellir eu pysgota’n gynaliadwy yn y dyfodo.”