Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru wedi llofnodi’r Cytundeb Cydweithio, gan nodi dechrau partneriaeth dair blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant; creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a gweithredu ar unwaith ac yn radical i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.

Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu polisïau ar sail y Cytundeb Cydweithio ac i gadw trosolwg ar y cyd o’r gwaith o’u cyflawni.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Dros y tair blynedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn mynd ati ar y cyd i ddatblygu a chyflawni’r polisïau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio hwn.

“Mae’n gytundeb pwrpasol i gyflawni dros Gymru ond mae hefyd yn adlewyrchu sut mae gwleidyddiaeth Cymru yn gweithio – drwy ganfod tir cyffredin a rhannu syniadau da.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ar y rhaglen uchelgeisiol hon.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:

“Mae heddiw’n nodi dechrau ffordd newydd o wleidydda.

“Wrth i Gymru wynebu heriau niferus yn sgil Brexit, yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig, nid yw cydweithio erioed wedi bod mor hanfodol i’n democratiaeth.

“Bydd y polisïau radical a phellgyrhaeddol sydd yn y Cytundeb Cydweithio – boed yn brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd neu’n ofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed – yn newid bywydau miloedd o deuluoedd yng Nghymru er gwell.

“Rwy’n falch o lofnodi’r Cytundeb hwn gyda’r Prif Weinidog ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru.”