Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o gytundebau cyllido a chynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus. 

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cytundeb cyllido ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch Arbenigol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid ichi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

 Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod â darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu efallai y byddwn yn rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol ichi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gallai hyn arwain at bobl eraill yn gwrthod â darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phan fydd pob taliad wedi'i wneud. Fodd bynnag, os yw’r cyllid yn cael ei ddyfarnu dan yr Esemptiad Bloc Cyffredinol neu De Minimis, bydd eich data personol yn cael eu cadw am 10 mlynedd ar ôl i unrhyw ddyfarniad o gymorth ddod i ben. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • gofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (dan rai amgylchiadau)
  • gofyn i'ch data gael eu dileu (dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a sut mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am ymarfer eich hawliau o dan GDPR, mae'r manylion cyswllt isod:

Tîm Arbenigol Lleoliadau Ôl-16

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Llinell gymorth y Deyrnas Unedig: 0303 123 1113