Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Gartrefi

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gyflenwi tai cymdeithasol mawr eu hangen ar ôl cytuno i werthu dau blot o dir yn Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r plotiau o dir, rhifau D5B a D9B, wedi cael eu gwerthu i gymdeithasau tai a fydd yn eu datblygu'n 69 o gartrefi cymdeithasol newydd.

Cymdeithas Dai Pobl sydd wedi prynu plot D5B, i adeiladu 35 o fflatiau ac wyth tŷ ar y safle.

Cafodd Plot D9B ei brynu gan Beacon Cymru, sy'n bwriadu datblygu'r tir i adeiladu 26 o gartrefi cymdeithasol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: 

"Mae'r gwerthiant tir hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y wlad nawr ac ar gyfer y dyfodol.

"Bydd y cartrefi newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd yn yr ardal a thrwy weithio gyda darparwyr tai dibynadwy fel Pobl a Beacon Cymru, gallwn fod yn sicr y caiff y cartrefi hyn eu datblygu i'r safonau uchaf y mae ein cymunedau yn eu haeddu."

Dywedodd Claire Tristram, Cyfarwyddwr Datblygu'r Gorllewin Grŵp Pobl: 

"Mae cynllun Grŵp Pobl ar gyfer plot D5B yn SA1 yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei wneud drwy bartneriaeth gref â Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn fwy nag adeiladu cartrefi – rydyn ni'n creu cymdogaeth gynaliadwy sydd wedi'i dylunio'n dda ac a fydd yn gwella'r ardal gan greu gwir ymdeimlad o le i'r trigolion. Bydd y 43 o gartrefi fforddiadwy newydd yn rhoi sicrwydd, cysur a chymuned i bobl sydd eu hangen fwyaf."

Dywedodd Rhianydd Jenkins, Pennaeth Datblygu a Thwf grŵp Beacon Cymru: 

"Rydym yn falch iawn o gael datblygu mwy o dai fforddiadwy yn y lleoliad hyfryd hwn ger glannau Abertawe.

“Mae ein cynllun presennol yn Harbour Quay yn boblogaidd iawn gyda'r trigolion ac rydym yn disgwyl galw tebyg am y 104 o gartrefi yr ydym yn eu datblygu ar hyn o bryd ar King's Road gerllaw, yn ogystal â'r 26 o gartrefi ar y tir sy'n rhan o'r cytundeb hwn."