Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi cytuno ar fframwaith cyllidol newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r fframwaith cyllidol yn datgan sut caiff Llywodraeth Cymru ei chyllido yn dilyn datganoli treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru.

O dan y trefniadau newydd mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno y bydd Cymru’n cael lefel deg o gyllid ar gyfer y tymor hir.

Cyflawnir hyn drwy wneud y canlynol:

  • Creu ffactor newydd yn seiliedig ar anghenion fel rhan o fformiwla Barnett i benderfynu ar y newidiadau yn y grant bloc mewn perthynas â gwariant datganoledig – mae hyn yn adeiladu ar y llawr cyllido a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU yn Adolygiad Gwariant 2015. Bydd y ffactor newydd, seiliedig ar anghenion, yn cael ei bennu yn 115% fel yr argymhellir gan Gomisiwn Holtham. Er bod cyllid cymharol yng Nghymru’n parhau’n uwch na’r lefel anghenion a gafodd ei datgan gan Holtham, bydd newidiadau mewn cyllid drwy fformiwla Barnett yn cael eu lluosogi gan ffactor drawsnewidiol o 105%.
  • Defnyddio’r model cymharol i benderfynu ar newidiadau yn y grant bloc mewn perthynas â datganoli treth - mae hyn yn ystyried capasiti treth cymharol Cymru ac, ochr yn ochr â fformiwla Barnett, mae’n sicrhau bod newid poblogaeth yn cael ei drin yn gyson yng nghyllid grant bloc Llywodraeth Cymru. Gweithredir hyn ar gyfer treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a phob band o dreth incwm.

Hefyd, mae’r fframwaith cyllidol yn datgan y canlynol:

  • Pwerau benthyca cyfalaf cynyddol – bydd uchafswm benthyca cyfalaf  cyffredinol Llywodraeth Cymru yn cynyddu i £1bn a’r uchafswm blynyddol i £150m.
  • Cronfa newydd i Gymru – bydd cronfa unigol i Gymru’n cael ei chreu i alluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb yn well, gan gynnwys y refeniw treth newydd.
  • Goruchwyliaeth annibynnol – bydd rôl i gyrff annibynnol ble mae angen, i gyfrannu at faterion perthnasol i weithredu’r fframwaith cyllidol.

Hefyd mae’r fframwaith yn braenaru'r tir ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru ym mis Ebrill 2019. Mae hyn yn dibynnu ar ddileu gofyniad y refferendwm drwy gyfrwng Bil Cymru, sydd ger bron y Senedd ar hyn o bryd, a Llywodraeth Cymru’n datgan ei bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.   

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:  

“Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb am fframwaith cyllidol newydd sy’n rhoi sylfaen tymor hir a sefydlog i’n cyllid ni. Dyma gytundeb sy’n deg i Gymru ac i weddill y DU.              

“Mae’n sicrhau cyllid teg i Gymru ar gyfer y tymor hir, rhywbeth yr ydyn ni wedi gofyn amdano’n gyson, ac mae’n adeiladu ar waith Comisiwn Holtham a’r comisiwn trawsbleidiol, Comisiwn Silk.        

“Mae’r pecyn yma o fesurau’n braenaru’r tir ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol yng Nghymru. Ond, yn allweddol, mae’n gwarchod ein cyllideb rhag yr ystod o risgiau diangen a allai godi yn dilyn datganoli pwerau trethu o 2018 ymlaen ac mae’n darparu hyblygrwydd ychwanegol i reoli ein hadnoddau.”

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrh. David Gauke:

“Ar ôl trafodaethau adeiladol, rydyn ni wedi cytuno ar setliad cyllidol teg a thymor hir gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r llwybr yn glir yn awr i Gynulliad Cymru ganiatáu gweithredu Bil Cymru. Rydyn ni’n cyflawni ar ein hymrwymiadau a gall Llywodraeth Cymru benderfynu yn awr sut i ddefnyddio ei phwerau a’i chyfrifoldebau ychwanegol i ddatblygu a chefnogi economi Cymru.”