Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r briff tystiolaeth hwn yn archwilio'r gydberthynas bosibl rhwng darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg a deilliannau plant. Roedd y prosiect yn cysylltu data gofal plant rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer Abertawe â chofnodion addysg ac iechyd arferol.

Prif bwyntiau

Mae Dechrau'n Deg ar gael i blant dan bedair oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, gyda'r nod o wella eu cyfleoedd mewn bywyd.  Mae'n cynnwys pedair elfen graidd, sef: gofal plant; ymweliadau iechyd gwell; cymorth rhianta; a chymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu. 

Cafodd data ymwelwyr iechyd a gofal plant Dechrau'n Deg eu cysylltu â data arferol ar gyfer presenoldeb addysgol mewn ysgolion cynradd ar gyfer 2017/18, yn ogystal â data derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys a derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer plant dan bump oed ar gyfer 2013-14 ymlaen.  Mae'r dadansoddiad hwn yn edrych yn benodol ar faint o ofal plant y cytunwyd arno a nifer y sesiynau a fynychwyd gan bob plentyn. Mae'r canfyddiadau'n berthnasol i ardal beilot Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn unig, ac nid oes unrhyw brofion ystadegol wedi cael eu cynnal i gadarnhau arwyddocâd y cydberthnasau goblygedig, felly ni ellir cyffredinoli'r canlyniadau hyn.  Caiff dadansoddiad pellach yn cyfuno data ar gyfer awdurdodau lleol ychwanegol, ac yn cynnwys profion ystadegol, ei gyhoeddi yn y dyfodol.

Nodwyd deilliannau addysg a chanlyniadau iechyd ar gyfer plant yn ardal Abertawe a oedd wedi cael Gofal Plant Dechrau'n Deg o 2012-13 ymlaen. Cafodd hyn ei rhannu'n is-grwpiau yn seiliedig ar faint o ofal plant y cytunwyd arno a chanran y sesiynau a fynychwyd ganddynt. Nod hyn yw gwneud y canlynol: archwilio potensial cysylltu data gofal plant â chanlyniadau posibl; ystyried posibilrwydd nodi faint o ofal plant Dechrau'n Deg a gafwyd; a dechrau nodi cydberthnasau posibl rhwng nifer y sesiynau gofal Dechrau'n Deg a chanlyniadau plant.

Mae'r dadansoddiad hwn yn awgrymu'r canlynol:

  • Gellir cysylltu data sy'n ymwneud â lefelau rhyngweithio â rhaglen Dechrau'n Deg er mwyn gwerthuso deilliannau addysg a chanlyniadau iechyd.
  • Roedd hanner y plant wedi'u cofrestru ar gyfer 156 neu fwy o sesiynau gofal plant (sy'n cyfateb i bedair sesiwn yr wythnos dros dri thymor neu tua pum sesiwn yr wythnos dros ddau dymor).
  • Mynychodd chwarter y plant 156 neu fwy o sesiynau yn gyffredinol.
  • Ar gyfartaledd, mynychodd plant mewn gofal plant Dechrau'n Deg 78% o'r sesiynau yr oeddent wedi'u cofrestru ar eu cyfer. Roedd plant â phresenoldeb o 100% mewn sesiynau gofal plant yn dueddol o fod wedi derbyn cynigion o lai nag 80 o sesiynau.  Hynny yw, roedd y rhai â phresenoldeb llawn yn dueddol o fod wedi cytuno ar nifer llai o sesiynau gofal plant yn y lle cyntaf.
  • Mae'n bosibl y gall lefelau uwch o bresenoldeb mewn sesiynau gofal plant Dechrau'n Deg fod yn gysylltiedig â lefelau is o dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, derbyniadau i'r ysbyty ac absenoldebau o ysgolion cynradd, o gymharu â lefelau is o bresenoldeb mewn sesiynau gofal plant Dechrau'n Deg. Bydd angen ymchwilio i'r cydberthnasau hyn ymhellach i ddeall effaith bosibl Dechrau'n Deg ar ddeilliannau addysg a chanlyniadau iechyd.

Nid yw'r canfyddiadau hyn yn archwilio camgymeriadau yn fanwl. Caiff dadansoddiad manylach ei gyhoeddi yn y dyfodol.

1. Cyflwyniad

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, sy'n bartneriaeth arloesol newydd, wedi llunio'r briff tystiolaeth hwn. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn dod ag arbenigwyr gwyddoniaeth data o'r llywodraeth a'r byd academaidd ynghyd i ddefnyddio Banc Data SAIL. 

Mae Rhaglen Dechrau'n Deg wedi bod ar waith ers 2006-07 ac mae ar gael i blant o dan bedair oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, gyda'r nod o wella eu cyfleoedd mewn bywyd. Mae'n cynnwys pedair elfen graidd:

  • Gofal plant rhan amser o ansawdd uchel wedi'i ariannu ar gyfer plant 2 oed;
  • Gwasanaeth ymweliadau iechyd gwell;
  • Mynediad at gymorth rhianta;
  • Mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae'r briff tystiolaeth hwn yn defnyddio'r data a lunnir gan brosiect Peilot Casglu Data ar Lefel Unigol Dechrau'n Deg. Nod y prosiect yw sefydlu set gyson y cytunwyd arni o eitemau data y dylai awdurdodau lleol eu casglu am bob plentyn Dechrau'n Deg. Bydd y data hyn ar gael i'w cysylltu â setiau data eraill at ddibenion gwerthuso i ystyried effeithiau'r rhaglen. Ym mis Awst 2019, cyhoeddwyd briff tystiolaeth (‘Dadansoddiad o Ganlyniadau Dechrau'n Deg gan ddefnyddio Data sydd wedi'u Cysylltu: canfyddiadau sy'n codi’, y cyfeirir ato isod fel ‘adroddiad Canfyddiadau sy'n Codi’) a oedd yn cynnwys canfyddiadau cychwynnol y prosiect ymchwil hwn. Dechreuodd y briff tystiolaeth ystyried y cydberthnasau posibl rhwng gwasanaethau addysg ac iechyd drwy edrych ar y plant hynny yn Abertawe a oedd ag ymwelydd Dechrau'n Deg a'r rhai nad oedd ganddynt ymwelydd o'r fath.

Mae'r briff tystiolaeth hwn yn ymestyn y dadansoddiad cychwynnol o wasanaethau Dechrau'n Deg gan ddefnyddio dull cysylltu data drwy ganolbwyntio ar y cydberthnasau posibl rhwng yr elfen gofal plant a chanlyniadau plant. Mae'n edrych yn benodol ar faint o ofal plant y cytunwyd arno a nifer y sesiynau a fynychwyd gan bob plentyn. Nod hyn yw datblygu dull o gategoreiddio lefelau ‘uwch’ ac ‘is’ o ofal plant yn seiliedig ar sut y caiff rhaglen Dechrau'n Deg ei chyflwyno mewn un awdurdod.

Nod Dechrau'n Deg yw gwella canlyniadau iechyd a deilliannau addysg i blant drwy leihau effaith amddifadedd. Mae'r nodyn hwn yn darparu dadansoddiad ymchwiliol cychwynnol o gydberthnasau posibl yn seiliedig ar lefelau rhyngweithio â gofal plant Dechrau'n Deg.  Oherwydd natur ymchwiliol y briff tystiolaeth hwn, ni ddylid ei ddarllen fel gwerthusiad o effaith unrhyw agwedd ar raglen Dechrau'n Deg.  Yn hytrach, dylid ei ystyried yn ffordd o ddangos ei bod hi'n bosibl ymgymryd â'r math hwn o ddadansoddiad, sy'n ddatblygiad methodolegol pwysig, a gaiff ei ddatblygu mewn gwaith yn y dyfodol.

2. Dulliau

Cafodd data dienw o leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn Abertawe eu cysylltu â'r setiau data canlynol:

  • Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ar gyfer cofnodion presenoldeb
  • Set Ddata Adrannau Achosion Brys Cymru ynglŷn â derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys
  • Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru ynglŷn â derbyniadau i'r ysbyty
  • Gwasanaeth Demograffig Cymru.

Mae'r dadansoddiad yn edrych ar ddeilliannau addysg a chanlyniadau iechyd ar gyfer plant a gafodd ofal plant mewn lleoliad Dechrau'n Deg o 2012-13 ymlaen.

Lluniwyd ystadegau a oedd yn crynhoi amrywiaeth o ganlyniadau fesul grŵp ac is-grŵp. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio'r data mwyaf diweddar sydd ar gael ond mae amrywiaeth y cyfnodau amser y mae data ar gael ar eu cyfer yn amrywio rhwng y setiau data. Cafodd deilliannau addysg eu cymharu ar gyfer blynyddoedd academaidd 2016/17 i 2017/18 a chafodd canlyniadau iechyd eu cymharu ar gyfer blynyddoedd ariannol 2013-14 i 2016-17.

3. Diffinio is-grwpiau gofal plant Dechrau'n Deg

Cynnig craidd gofal plant Dechrau'n Deg yw bod gofal plant rhan amser o ansawdd uchel yn cael ei gynnig i rieni pob plentyn 2 oed sy'n gymwys. Ar y cyfan, gall plant y mae eu rhieni wedi derbyn cynnig ‘llawn’ o ofal plant Dechrau'n Deg fynychu 195 o sesiynau, a fyddai fel arfer yn cynnwys 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o'r flwyddyn. Gall rhieni ddewis naill ai'r cynnig llawn neu'r cynnig llai, os mai dim ond rhai o'r sesiynau sydd eu hangen. Gall 15 o sesiynau ychwanegol fod ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol drwy gydol y flwyddyn, ac mewn rhai amgylchiadau arbennig gall sesiynau pellach fod ar gael i blant y nodwyd bod angen cymorth pellach arnynt er mwyn eu helpu i fod yn barod i ddechrau yn yr ysgol.

Mae'r data sydd ar gael ar gyfer y dadansoddiad hwn yn ymwneud â phlant a ddechreuodd gofal plant mewn lleoliad Dechrau'n Deg yn Abertawe rhwng mis Rhagfyr 2012 a mis Mawrth 2019 (a anwyd rhwng mis Tachwedd 2010 a mis Mawrth 2017), sef cyfanswm o 2,793 o blant. Dylid nodi nad oedd data Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn ymwneud â phlant mewn lleoliadau gofal plant cyn y dyddiadau hyn ar gael i'w dadansoddi.

Cafodd tua 2,500 o blant a gafodd eu geni dros yr un cyfnod eu cofrestru ar gyfer Dechrau'n Deg (h.y. roedd eu cofnodion yn ymddangos yn set ddata Llwyth Achosion Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg, a ddarparwyd gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe hefyd) ond ni chawsant unrhyw ofal plant Dechrau'n Deg. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys y rhai hynny a ddewisodd peidio â chael gofal plant oherwydd trefniadau gofal plant amgen (e.e. meithrinfeydd dydd preifat) yn ogystal â'r rhai hynny nad oeddent yn gymwys i gael gofal plant mwyach oherwydd eu bod wedi symud allan o ardal Dechrau'n Deg cyn cyrraedd yr oedran cymwys. Nid oedd yn bosibl diffinio'r plant hyn fel grŵp cymharu effeithiol ar gyfer y datganiad hwn am nifer o resymau. Er enghraifft, nid oedd yn bosibl nodi pa drefniadau gofal plant amgen y gallent fod wedi'u defnyddio, na pha mor effeithiol oedd y rhain. Hefyd, mae'n heriol nodi a oedd plant a ymddangosodd ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd am ychydig ond na wnaethant ryngweithio ag ymwelydd iechyd o gwbl yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg mewn gwirionedd, neu i ba raddau y gwnaethant ymgysylltu ag elfennau eraill rhaglen Dechrau'n Deg. Gellir archwilio hyn ymhellach mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Er mwyn dadansoddi deilliannau addysg a chanlyniadau iechyd ar gyfer gofal plant, cafodd y grŵp o blant a gafodd Gofal Plant Dechrau'n Deg ei rannu'n is-grwpiau yn seiliedig ar faint o ofal plant a gafwyd.

Fel y nodwyd uchod, gall rhieni plant Dechrau'n Deg sy'n ddwy oed ddewis hyd at bum sesiwn yr wythnos, bob wythnos dros dri thymor y flwyddyn. Fodd bynnag, gall rhai rhieni ddewis llai o sesiynau yr wythnos, neu lai na thri thymor. At ddibenion y dadansoddiad hwn, rydym wedi nodi plant y cytunodd eu rhieni ar 156+ o sesiynau (sy'n cyfateb i gyfartaledd o bedair sesiwn neu fwy yr wythnos dros dri thymor, neu bum sesiwn yr wythnos dros ddau dymor) fel gofal plant ‘lefel uwch’. Nodir plant y cytunodd eu rhieni ar lai na 156 o sesiynau fel gofal plant ‘lefel is’. 

Caiff faint o ofal plant y mae plentyn yn ei gael ei bennu nid yn unig gan nifer y sesiynau a ddewiswyd, ond hefyd batrwm presenoldeb plentyn. Un o nodau polisi allweddol Cyngor Dinas a Sir Abertawe yw bod plant yn mynychu 80 y cant o'r sesiynau sydd ar gael iddynt. Fel y cyfryw, cafodd plant eu rhannu'n ddau grŵp pellach; nodwyd y rhai hynny a oedd wedi mynychu 80% neu fwy o'r sesiynau roeddent wedi'u cofrestru ar eu cyfer fel ‘presenoldeb uwch’, a nodwyd y rhai hynny a oedd wedi mynychu llai nag 80% o'r sesiynau roeddent wedi'u cofrestru ar eu cyfer fel ‘presenoldeb is’.

Ar sail y wybodaeth hon, gellir rhannu plant yn un o bedwar is-grŵp:

  • Lefel uwch, presenoldeb uwch: plant y cytunodd eu rhieni ar 156 o sesiynau neu fwy gyda phresenoldeb o 80% neu fwy
  • Lefel uwch, presenoldeb is: plant y cytunodd eu rhieni ar 156 o sesiynau neu fwy gyda phresenoldeb o lai nag 80%
  • Lefel is, presenoldeb uwch: plant y cytunodd eu rhieni ar lai na 156 o sesiynau gyda phresenoldeb o 80% neu fwy
  • Lefel is, presenoldeb is: plant y cytunodd eu rhieni ar lai na 156 o sesiynau gyda phresenoldeb o lai nag 80%

Gan ddefnyddio'r categorïau hyn gellir grwpio niferoedd y plant sy'n cael gofal plant mewn lleoliad Dechrau'n Deg yn is-grwpiau. Dangosir y niferoedd ym mhob is-grŵp yn Nhabl 1.

Tabl 1 Niferoedd y plant fesul nifer y sesiynau y cytunwyd arnynt gyda'r rhieni a chanrannau presenoldeb
 

Canran
presenoldeb (%)

Presenoldeb
uwch
>=80

Canran
presenoldeb (%)

Presenoldeb
is
<80

Cyfanswm
Sesiynau y cytunwyd arnynt
Lefel uwch >=156
847 557 1,404
Sesiynau y cytunwyd arnynt
Lefel is <156
707 682 1,389
Cyfanswm 1,554 1,239 2,793

Mae'r dadansoddiad a gyflwynir isod yn cymharu'r pedwar is-grŵp hyn o blant sy'n cael gofal plant mewn lleoliad Dechrau'n Deg yn Abertawe. Caiff dadansoddiad manylach o effaith nifer cyffredinol y sesiynau gofal plant ei archwilio mewn adroddiadau yn y dyfodol, gan ddefnyddio profion ystadegol i asesu arwyddocâd cydberthnasau y gellir eu nodi.

4. Canfyddiadau

Plant mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn Abertawe

Mae'r canlyniadau isod yn ymwneud ag unrhyw blant a ddechreuodd gofal plant mewn lleoliad Dechrau'n Deg yn Abertawe rhwng mis Rhagfyr 2012 a mis Mawrth 2019.

Mae Ffigur 1 yn dangos bod hanner y plant wedi dewis 156 neu fwy o sesiynau gofal plant. Fodd bynnag, mae Ffigur 2 yn dangos mai dim ond chwarter y plant a fynychodd o leiaf 156 o sesiynau mewn gwirionedd.

Nifer cyfartalog y sesiynau y cytunodd rhieni arnynt oedd 135 fesul plentyn. Nifer cyfartalog y sesiynau a fynychwyd gan blant oedd 108, sy'n gyfystyr â 78% ar gyfartaledd. Roedd plant â phresenoldeb o 100% mewn sesiynau gofal plant yn dueddol o fod wedi derbyn cynigion o lai nag 80 o sesiynau.

Mae Ffigur 1 yn dangos bod hanner y plant wedi dewis 156 neu fwy o sesiynau gofal plant.

Mae Ffigur 2 yn dangos mai dim ond chwarter y plant a fynychodd o leiaf 156 o sesiynau mewn gwirionedd.

Presenoldeb yn yr ysgol gynradd

Wrth ddadansoddi fesul is-grŵp gofal plant, roedd plant â phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant yn dueddol o fod â lefelau uwch o absenoldeb (awdurdodedig ac anawdurdodedig) cyffredinol o'r ysgol gynradd na'r rhai hynny â phresenoldeb uwch mewn sesiynau gofal plant. Roedd hyn yn wir ar gyfer plant a oedd yn cael lefelau uwch a lefelau is o ofal plant. Mae hyn yn dangos cydberthynas bosibl rhwng canrannau presenoldeb mewn gofal plant Dechrau'n Deg a phresenoldeb mewn ysgol gynradd.

Roedd plant â phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant yn dueddol o fod â lefelau uwch o absenoldeb cyffredinol o'r ysgol gynradd na'r rhai hynny â phresenoldeb uwch mewn sesiynau gofal plant.

Yn yr un modd â'r absenoldebau cyffredinol, roedd gan y rhai hynny â phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant lefelau uwch o absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig o'r ysgol gynradd (Ffigurau 4 a 5).

Roedd gan y rhai hynny â phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant lefelau uwch o absenoldeb awdurdodedig o'r ysgol gynradd.

Roedd gan y rhai hynny â phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant lefelau uwch o absenoldeb anawdurdodedig o'r ysgol gynradd

Canlyniadau iechyd

Mae'r graffiau isod yn archwilio'r cydberthnasau posibl rhwng lefel y gofal plant a chanlyniadau iechyd. Nid oedd yr adroddiad Canfyddiadau sy'n Codi yn awgrymu unrhyw gydberthynas bosibl rhwng amlygiad i raglen Dechrau'n Deg a derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys. Fodd bynnag, roedd hyn yn seiliedig ar gofrestru â'r rhaglen yn unig, ac nid oedd yn ystyried lefelau rhyngweithio'r plant â Dechrau'n Deg. Y briff tystiolaeth hwn yw'r tro cyntaf y mae maint elfen o raglen Dechrau'n Deg wedi cael ei ddadansoddi, felly er nad yw gofal plant Dechrau'n Deg yn canolbwyntio cymaint ar wella canlyniadau iechyd â'r elfen ymweliadau iechyd, gellir defnyddio lefelau uwch o ryngweithio â gofal plant fel procsi ar gyfer lefelau uwch o ryngweithio â'r agweddau iechyd neu rianta ar y rhaglen. Mae hefyd yn bosibl y gall rhyngweithio a chyngor gan arbenigwyr gofal plant a nyrsys meithrin effeithio ar benderfyniad rhiant i fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys a/neu ysbyty.

Derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Mae Ffigur 6 yn dangos cyfraddau derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru ar gyfer plant dan bump oed, yn ôl lefelau gofal plant a phresenoldeb, wedi'u cyfrifo fesul 100 o blant yn ôl blwyddyn ariannol. Gall hyn gynnwys derbyniad cyn i'r plentyn gael gofal plant Dechrau'n Deg, yn ystod y cyfnod hwnnw neu ar ôl hynny.

Wrth eu dadansoddi fesul Is-grŵp Gofal Plant, mae'n amlwg, er bod cyfraddau derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi cynyddu ers 2013-14 maent yn dueddol o fod yn uwch i'r rhai hynny sydd â phresenoldeb gofal plant is. Mae hyn yn dangos y gallai'r ddau beth fod yn gysylltiedig, yn ôl y disgwyl, oherwydd gall anaf neu salwch atal plant rhag gallu mynychu gofal plant. Hefyd, gall fod nifer o ffactorau sy'n effeithio ar hyn, y bydd angen ymchwilio iddynt ymhellach mewn adroddiadau dilynol.

Mae'n amlwg, er bod cyfraddau derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi cynyddu ers 2013-14 maent yn dueddol o fod yn uwch i'r rhai hynny sydd â phresenoldeb gofal plant is.

Derbyniadau i'r ysbyty (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru)

Mae cyfraddau derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer plant mewn gofal plant Dechrau'n Deg wedi'u cyfrifo ar gyfer plant dan bump oed, ar yr un sail â'r cyfraddau derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys uchod.

Dangosodd pob is-grŵp gyfradd derbyniadau i'r ysbyty lai erbyn 2015-16 fel y dangosir yn Ffigur 7. Yna bu cynnydd bach erbyn 2016-17 yn berthynol i 2013-14 ar gyfer y rhai hynny â lefel is o ofal plant a phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant. Mae hyn yn dangos y gallai derbyniadau i'r ysbyty a phresenoldeb is mewn lleoliadau gofal plant fod yn gysylltiedig, yn ôl y disgwyl. Gall hyn fod oherwydd salwch difrifol neu gyflyrau cronig ond bydd angen ymchwilio i hyn ymhellach.

Dangosodd pob is-grŵp gyfradd derbyniadau i'r ysbyty lai erbyn 2015-16. Yna bu cynnydd bach erbyn 2016-17 yn berthynol i 2013-14 ar gyfer y rhai hynny â lefel is o ofal plant a phresenoldeb is mewn sesiynau gofal plant.

5. Cyhoeddiadau yn y Dyfodol

Disgwylir i'r briff tystiolaeth nesaf ar gyfer Prosiect Cysylltu Data Dechrau'n Deg gael ei gyhoeddi yn 2020.

Gall cyhoeddiadau yn y dyfodol:

  • archwilio cyrhaeddiad addysgol plant Dechrau'n Deg
  • ystyried lefelau ymgysylltu ag elfen ymweliadau iechyd y rhaglen
  • archwilio i ba raddau y mae Dechrau'n Deg wedi cyflawni'r canlyniadau fel y rhagwelwyd ym model rhesymeg y rhaglen
  • dadansoddi data gan awdurdodau lleol eraill.

6. Gwybodaeth a chyfyngiadau allweddol o ran ansawdd a methodoleg

Amser a phrydlondeb

Nod y briff tystiolaeth hwn yw cyhoeddi dadansoddiad cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r data sydd ar gael. Mae'r data hyn yn cynnwys data gofal plant sydd bellach wedi'u cynnwys ym manc data SAIL.  Am fod y data yn SAIL yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, byddai'n bosibl ailadrodd y dadansoddiad mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio'r data a oedd ar gael ym mis Medi 2019.

Cymharedd a chydlyniant

Nid oedd unrhyw ddata ar lefel unigol ar gael ar adeg y dadansoddiad hwn ar gyfer y ddwy elfen o Raglen Dechrau'n Deg sy'n weddill (Cymorth Rhianta a Chymorth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu). Defnyddiwyd peth data iechyd Dechrau'n Deg ar lefel unigol yn yr adroddiad Canfyddiadau sy'n Codi ond ni chawsant eu defnyddio ar gyfer y dadansoddiad hwn. Dylid nodi y gall plant mewn is-grwpiau Gofal Plant Dechrau'n Deg amrywio ar hyd amrywiaeth o nodweddion (e.e. statws economaidd-gymdeithasol, oed y rhiant, amgylchedd dysgu yn y cartref) a gall gwahaniaethau mewn deilliannau addysg a chanlyniadau iechyd fod yn gysylltiedig â'r nodweddion hyn yn hytrach na faint o Ofal Plant Dechrau'n Deg a geir neu lefel y presenoldeb mewn sesiynau Gofal Plant Dechrau'n Deg.

Cyfyngiadau

Nid yw'r dadansoddiad hwn wedi ystyried ffactorau eraill a all effeithio ar ddeilliannau addysg a chanlyniadau iechyd (e.e. oedran neu statws economaidd-gymdeithasol y rhieni neu'r amgylchedd dysgu yn y cartref). Gellir ystyried y rhain mewn dadansoddiadau pellach o raglen Dechrau'n Deg gan ddefnyddio dull cysylltu data.

Nid yw'r data a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad hwn yn cwmpasu'r holl blant mewn lleoliadau Dechrau'n Deg yn Abertawe ers dechrau'r rhaglen, dim ond y rhai hynny y mae data ar gael ar eu cyfer. Nid yw'r data chwaith yn cynnwys presenoldeb plant mewn lleoliadau gofal plant eraill nad ydynt yn lleoliadau Dechrau'n Deg. Mae unrhyw gasgliadau yn ymwneud â lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn Abertawe yn unig ac nid ydynt yn ymwneud â lleoliadau gofal plant nad ydynt yn lleoliadau Dechrau'n Deg na lleoliadau gofal plant yn gyffredinol.

7. Cydnabyddiaethau

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn rhan o'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU) a ariennir gan Ymchwil Data Gweinyddol y DU.

Mae Laura Herbert (Prifysgol Abertawe) a Tony Whiffen (Llywodraeth Cymru), ynghyd ag aelodau eraill o dîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, wedi cydweithio i lunio'r erthygl hon.

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi llunio data ar ofal plant ac ymyriadau iechyd plant Dechrau'n Deg ac wedi lanlwytho'r data hyn i Fanc Data SAIL. Mae'r Cyngor hefyd wedi cydweithio â dadansoddwyr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wrth ysgrifennu'r adroddiad er mwyn rhoi cipolwg ar y ffordd y caiff rhaglen Dechrau'n Deg ei chyflwyno yn Abertawe. Rydym yn ddiolchgar iawn am y mewnbwn.

8. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Tony Whiffen
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: uydg.cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu unrhyw adborth mewn perthynas ag unrhyw elfen o'r adroddiad hwn. Anfonwch eich adborth trwy e-bost i uydg.cymru@llyw.cymru.

Adroddiad ymchwil rhif 58/2019

Image
GSR logo

ADR Wales logo