Neidio i'r prif gynnwy

Roedd y prosiect yn cysylltu data gofal plant rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer Abertawe â chofnodion addysg arferol.

Prif ganfyddiadau a chyd-destun

Yn y dadansoddiad hwn cysylltwyd gwybodaeth am 1,081 o blant a dderbyniodd wasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg yn Abertawe cyn eu hasesiadau ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen. Mae hyn yn ein galluogi i weld nifer y sesiynau gofal plant Dechrau'n Deg y cytunwyd arnynt ar gyfer pob plentyn (eu 'defnydd'), a faint yr oeddent yn ei fynychu (eu 'presenoldeb'). Yna gallwn gymharu hyn â'u hasesiadau sylfaenol wrth fynd i mewn i'r Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol gynradd, sydd fel arfer o fewn eu chwe wythnos gyntaf yn y Dosbarth Derbyn[1]. Bryd hynny, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant sy'n datblygu fel arfer gyrraedd lefel dau o ran datblygiad. Am y rheswm hwn, mae'r dadansoddiad hwn yn disgrifio plant sy'n cyflawni deilliannau ar lefel dau neu'n uwch fel rhai sy’n cyflawni’r lefel ddisgwyliedig, a phlant sy’n cyflawni deilliannau ar lefel un neu’n is fel rhai sy’n cyflawni lefel is na'r disgwyl.

Mae'r dadansoddiad hwn yn edrych yn benodol ar sut mae deilliannau a gyflawnwyd yn yr asesiad ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen yn amrywio rhwng plant sydd â gwahanol lefelau o fanteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg a gwahanol lefelau presenoldeb. Y nod yw adeiladu ar gysylltu data gofal plant â deilliannau addysgol ac ystyried y berthynas bosibl rhwng y deilliannau hyn a manteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg a phresenoldeb. Yn y dadansoddiad hwn mae’r canlyniad datblygiadol a ystyrir yn cael ei fesur gan asesiad ar fynediad. Cyhoeddir canlyniadau asesiadau ar fynediad i blant ledled Cymru bob blwyddyn yn y datganiad ystadegol Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd.

Mae'r dadansoddiad hwn yn awgrymu'r canlynol:

  • mae cymharu canlyniadau asesiadau ar fynediad ar gyfer pob plentyn yn Abertawe yn dangos bod plant sy'n derbyn gofal plant Dechrau'n Deg yn gyffredinol yn tueddu i fodloni eu deilliannau disgwyliedig yn llai aml na'r cyfartaledd ar gyfer Abertawe. Disgwylir hyn, gan fod Dechrau'n Deg wedi'i dargedu at blant o gartrefi difreintiedig o ran incwm, sydd, yn ôl y dystiolaeth, yn tueddu i beidio perfformio cystal ar gyfartaledd.
  • wrth gymharu canlyniadau asesiadau ar fynediad ar gyfer plant a dderbyniodd ofal plant Dechrau'n Deg, roedd y rhai â phresenoldeb uwch yn tueddu i fodloni eu deilliannau disgwyliedig ym mhob maes dysgu yn amlach na'r rhai â phresenoldeb is. Roedd y gwahaniaeth hwn rhwng y rhai â phresenoldeb uchel ac isel hyd yn oed yn fwy i blant oedd yn manteisio ar fwy o ddefnydd o’r cynllun.

Amlygir y gwahaniaethau datblygiadol rhwng plant o ardaloedd difreintiedig ac ardaloedd nad ydynt yn ddifreintiedig wrth ddechrau yn yr ysgol yn y dadansoddiad hwn gan y gwahaniaeth yng nghanlyniadau asesiadau ar fynediad rhwng plant yn Dechrau'n Deg a'r cyfartaledd ar gyfer pob plentyn yn Abertawe. Er y cydnabyddir bod angen ystod eang o ddulliau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion sy'n cyfrannu at y bylchau hyn, mae'r dadansoddiad hwn yn awgrymu y gallai Dechrau'n Deg fod yn gyfrannwr. Er bod tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn anodd cau'r bwlch yn llwyr, mae'r dadansoddiad hwn yn awgrymu y gallai Dechrau'n Deg fod wedi helpu plant o ardaloedd difreintiedig i ddechrau ar eu taith ysgol ar gam datblygu yn nes at rai eu cymheiriaid llai difreintiedig nag y byddent wedi'i wneud fel arall.

[1] Cynhelir y rhan fwyaf o’r asesiadau hyn pan fydd y plentyn yn mynd i ddosbarth derbyn yn 4 i 5 oed, er bod ysgolion yn cael eu hannog i asesu'r plentyn wrth fynd i mewn i'r Cyfnod Sylfaen, ar ba oedran bynnag a allai fod.

Deilliannau yn Awdurdod Lleol Abertawe a Dechrau’n Deg

Cymharwyd deilliannau’r asesiad sylfaenol ar fynediad ar gyfer pob plentyn yn Abertawe â phlant sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn Abertawe. Yn y rhan fwyaf o feysydd dysgu roedd plant sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn llai tebygol o gyflawni eu deilliannau disgwyliedig na phlant Abertawe yn gyffredinol. Mewn un maes dysgu (datblygiad mathemategol) aseswyd canran ychydig yn uwch o blant a oedd yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ar eu lefel ddisgwyliedig neu'n uwch na hynny. Gellir gweld y rhain yn ffigur 1 lle ar gyfer:

  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (Saesneg): aseswyd 46.7% o blant a oedd yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ar y lefel ddisgwyliedig neu'n uwch na hynny, o gymharu â 59.0% o'r holl blant yn Abertawe. Mae hyn 12.4 pwynt canran yn is
  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (Cymraeg): aseswyd 13.6% o blant a oedd yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ar y lefel ddisgwyliedig neu'n uwch na hynny, o gymharu ag 16.8% o'r holl blant yn Abertawe. Mae hyn 3.3 pwynt canran yn is
  • Datblygiad Mathemategol: aseswyd 60.6% o blant a oedd yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ar y lefel ddisgwyliedig neu'n uwch na hynny, o gymharu â 58.1% o'r holl blant yn Abertawe. Mae hyn 2.5 pwynt canran yn uwch
  • Datblygiad Corfforol: aseswyd 47.5% o blant a oedd yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ar y lefel ddisgwyliedig neu'n uwch na hynny, o gymharu â 73.0% o'r holl blant yn Abertawe. Mae hyn 25.5 pwynt canran yn is
  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol: aseswyd 64.2% o blant a oedd yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ar ganlyniad ar y lefel ddisgwyliedig neu'n uwch na hynny, o gymharu â 69.7% o'r holl blant yn Abertawe. Mae hyn 5.5 pwynt canran yn is.
Image
Roedd y canran o blant yn cyflawni eu deilliannau disgwyliedig ar gyfer pob plentyn yn Abertawe yn fwy na’r plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn Abertawe yn unig. Mae hyn yn wir ar gyfer pob maes dysgu heblaw am Fathemateg.

Deilliannau yn ôl defnydd a phresenoldeb

Er mwyn asesu a allai ymgysylltiad â gofal plant Dechrau'n Deg effeithio ar ganlyniadau asesiadau ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen, rhannwyd y plant yn ôl lefelau eu defnydd a'u presenoldeb. Crëwyd dau gategori ar gyfer defnyddio'r cynllun, yn seiliedig ar nifer y sesiynau y cytunodd y rhiant ar gyfer y plentyn[2]. Gall rhieni plant dwy oed sy’n rhan o gynllun Dechrau'n Deg ddewis hyd at bum sesiwn 2.5 awr yr wythnos, bob wythnos dros dri thymor y flwyddyn, ond gall rhai gymryd llai o sesiynau yr wythnos, neu lai na thri thymor. At ddibenion y dadansoddiad hwn, rydym wedi nodi plant y cytunodd eu rhieni ar 156+ o sesiynau (sy'n cyfateb i gyfartaledd o bedair sesiwn neu fwy yr wythnos dros dri thymor, neu bum sesiwn yr wythnos dros ddau dymor) fel gofal plant ‘lefel uwch’. Nodir plant y cytunodd eu rhieni ar lai na 156 o sesiynau fel gofal plant ‘lefel is’. 

Rhannwyd y plant yn ôl presenoldeb uchel ac isel, gyda’r rhai hynny a oedd wedi mynychu 80% neu fwy o'r sesiynau roeddent wedi'u cofrestru ar eu cyfer fel ‘presenoldeb uwch’, a’r rhai hynny a oedd wedi mynychu llai nag 80% o'r sesiynau roeddent wedi'u cofrestru ar eu cyfer fel ‘presenoldeb is’.

Ar sail y wybodaeth hon, gellir rhannu plant yn un o bedwar is-grŵp:

  • Lefel uwch, presenoldeb uwch: plant y cytunodd eu rhieni ar 156 o sesiynau neu fwy gyda phresenoldeb o 80% neu fwy
  • Lefel uwch, presenoldeb is: plant y cytunodd eu rhieni ar 156 o sesiynau neu fwy gyda phresenoldeb o lai nag 80%
  • Lefel is, presenoldeb uwch: plant y cytunodd eu rhieni ar lai na 156 o sesiynau gyda phresenoldeb o 80% neu fwy
  • Lefel is, presenoldeb is: plant y cytunodd eu rhieni ar lai na 156 o sesiynau gyda phresenoldeb o lai nag 80%

Roedd plant â phresenoldeb uwch yn fwy tebygol o gyflawni eu deilliannau disgwyliedig na'r rhai â phresenoldeb isel, waeth beth fo nifer y sesiynau a gytunwyd arnynt. Plant â nifer uchel o sesiynau ond presenoldeb is oedd leiaf tebygol o gyflawni eu deilliannau disgwyliedig.

Ar gyfer plant â phresenoldeb uchel, roedd 57% wedi cyrraedd eu lefel ddisgwyliedig neu'n uwch o gymharu â 46% o'r rhai â phresenoldeb isel, bwlch o 10.9 pwynt canran. Gall hyn ddangos bod presenoldeb uchel mewn sesiynau gofal plant Dechrau'n Deg yn cyfrannu at sicrhau bod plant yn fwy tebygol o gyflawni eu deilliannau disgwyliedig. Neu gallai ddangos bod ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â phresenoldeb uchel hefyd yn gysylltiedig â mwy o debygolrwydd y bydd plant yn cyflawni eu deilliannau disgwyliedig.

Wrth rannu presenoldeb yn ôl lefelau'r defnydd, mae mwy o wahaniaeth yng nghanran y plant sy'n cyrraedd eu lefelau disgwyliedig ymhlith plant yn y categorïau defnydd uchel o gymharu â phlant yn y categorïau defnydd isel. Ar gyfer plant defnydd uchel, roedd bwlch o 16.5 pwynt canran rhwng plant y barnwyd bod ganddynt bresenoldeb uchel a'r plant hynny y barnwyd bod ganddynt bresenoldeb isel. Ar gyfer plant defnydd isel, dim ond 7.7 pwynt canran oedd y bwlch hwn. I'r rhai defnydd uchel, mae’r bwlch mwy rhwng plant presenoldeb uchel ac isel i’w weld yn sgil y ffaith bod llai o blant yn y categori presenoldeb isel yn llwyddo i gyrraedd y lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran neu'n uwch na hynny. Gallai’r patrwm hwn gael ei achosi gan nifer o ffactorau allanol sy'n effeithio ar amgylchiadau unigol, byddai angen ystyried y rhesymau dros hyn ymhellach.

Image
Wrth rannu presenoldeb yn ôl lefelau hawlio, mae’r gwahaniaeth yn y canran  o blant yn cyflawni ei deilliant disgwyliedig  yn fwy ymysg plant yn y categorïau hawlio uchel o’i gymharu â phlant yn y categorïau hawlio isel.

[2] Gall y defnydd fod yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys dewis y rhieni neu gyfyngiadau cymhwysedd yn sgil trosglwyddo i mewn neu allan o ardal Dechrau’n Deg.

Deilliannau yn ôl meysydd dysgu

Er mwyn asesu a yw presenoldeb mewn gofal plant Dechrau'n Deg yn cael effeithiau gwahanol ar wahanol feysydd dysgu, cafodd asesiadau ar fynediad eu grwpio yn ôl categori presenoldeb y plentyn. Roedd plant â phresenoldeb uchel wedi mynychu 80% neu fwy o'r sesiynau yr oeddent wedi cofrestru ar eu cyfer, tra bod plant â phresenoldeb isel wedi mynychu llai nag 80% o'r sesiynau yr oeddent wedi cofrestru ar eu cyfer.

Ym mhob maes dysgu roedd gan blant â phresenoldeb uchel ganran uwch o asesiadau ar fynediad ar neu uwchlaw'r lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran na phlant â phresenoldeb isel. Ym mhob maes dysgu, cafwyd cynnydd o 10.9 pwynt canran mewn asesiadau ar y lefel ddisgwyliedig neu’n uwch ar gyfer plant yn y categori presenoldeb uchel.

Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng deilliannau mewn datblygiad mathemategol, lle'r oedd cynnydd o 15.2 pwynt canran mewn asesiadau ar neu uwchlaw'r lefel ddisgwyliedig ar gyfer plant â phresenoldeb uchel o gymharu â phlant â phresenoldeb isel. Roedd y gwahaniaethau lleiaf rhwng deilliannau ar gyfer sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn y Gymraeg, ac mewn Datblygiad Corfforol, lle'r oedd cynnydd o 4.5 a 7.8 pwynt canran yn y drefn honno mewn asesiadau ar neu uwchlaw'r lefel ddisgwyliedig ar gyfer plant â phresenoldeb uchel o gymharu â phlant â phresenoldeb isel. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, ei bod yn hysbys bod plant sy'n cwblhau asesiadau ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn llwyddo i gyrraedd lefel dau ar hyn o bryd yn llai aml na phlant sy'n cael eu hasesu yn Saesneg. Gellir egluro hyn drwy nifer y disgyblion o gartrefi di-Gymraeg y mae eu rhieni'n dewis eu cofrestru mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Ar draws Abertawe, dim ond 3.5 y cant o blant ysgolion cynradd y gwyddom eu bod yn siarad Cymraeg gartref. Mae dadansoddiad blaenorol wedi dangos bod y mwyafrif helaeth o blant, erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen, yn mynd ymlaen i gyflawni eu deilliannau disgwyliedig yn y maes dysgu hwn. Mae nifer y plant sy'n mynychu Dechrau'n Deg yn Abertawe ac yna'n cael eu hasesu ar gyfer sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn y Gymraeg hefyd yn fach iawn, yn llai na 100 o blant.

Image
Mae’r siart yn dangos y gwahaniaeth rhwng presenoldeb uchel ac isel i sesiynau gofal plant Dechrau’n Deg ar gyfer holl feysydd dysgu. Mae canran uwch yn dynodi deilliannau asesu perfformio gwell.

Ansawdd a methodoleg

Methodoleg

Cysylltwyd a dadansoddwyd data ar ofal plant Dechrau'n Deg ac asesiadau ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen yn SAIL. Mae data deilliannau asesiadau ar fynediad rhwng 2015/16 a 2017/18 wedi'u halinio â'r data sydd ar gael ar ofal plant Dechrau'n Deg ar adeg dadansoddi. Mae'r canfyddiadau'n ymwneud ag ardal beilot Cyngor Abertawe yn unig, ac nid oes unrhyw brofion ystadegol wedi'u cynnal i gadarnhau arwyddocâd y berthynas a awgrymir.

Roedd lefelau defnydd wedi'u cydgrynhoi i ddau gategori, sef o leiaf 156 o sesiynau y cytunwyd iddynt, a llai na 156 o sesiynau a gytunwyd iddynt. Mae hyn yn cydnabod y gallai rhieni plant fod wedi cytuno i fynychu 5 sesiwn yr wythnos dros 2 dymor neu fynychu mwy na 3 sesiwn yr wythnos dros 3 dymor. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn ddefnydd uchel o bobl ar draws y rhaglen.

Roedd presenoldeb wedi'i gydgrynhoi i ddau gategori, sef yn bresennol yn o leiaf 80% o'r sesiynau a gytunwyd iddynt, neu lai nag 80% o'r sesiynau a gytunwyd iddynt. Mae hyn yn cydnabod nod Dechrau'n Deg Abertawe o sicrhau bod plant yn mynychu o leiaf 80% o sesiynau Dechrau'n Deg. Mae hwn yn darged lleol ar gyfer presenoldeb Dechrau'n Deg, ac mae'n amrywio yn ôl awdurdod lleol ar draws y rhaglen Dechrau'n Deg.

Disgwylir i'r plant ddangos ystod eang o aeddfedrwydd datblygiadol ar yr adeg y cynhelir asesiadau ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen. Y disgwyliad cyffredinol yw bod y rhan fwyaf o blant sy'n cael asesiadau ar fynediad i’r Cyfnod Sylfaen yn bedair blwydd oed, ac felly byddant yn cael eu hasesu ar lefel deilliant dau, er y disgwylir canran hefyd ar lefelau deilliannau un a thri ym mhob maes dysgu. At ddibenion dadansoddi, roedd lefelau canlyniadau wedi'u cydgrynhoi i'r categorïau 'ar lefel ddisgwyliedig neu'n uwch' ac 'islaw'r lefel ddisgwyliedig'. Mae 'ar lefel ddisgwyliedig neu'n uwch' yn cynnwys canlyniadau asesu ar lefel dau neu'n uwch, tra bod 'islaw'r lefel ddisgwyliedig' yn cynnwys deilliannau ar lefel un neu is.

Amser a phrydlondeb

Nod y briff tystiolaeth hwn yw cyhoeddi dadansoddiad cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r data sydd ar gael. Mae'r data hyn yn cynnwys data gofal plant sydd bellach wedi'u cynnwys ym manc data SAIL.  Am fod y data yn SAIL yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, byddai'n bosibl ailadrodd y dadansoddiad mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio'r data a oedd ar gael ym mis Hydref 2020.

Cymharedd a chydlyniant

Nid oedd unrhyw ddata ar lefel unigol ar gael ar adeg y dadansoddiad hwn ar gyfer y ddwy elfen o Raglen Dechrau'n Deg sy'n weddill (Cymorth Rhianta a Chymorth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu). Defnyddiwyd peth data iechyd Dechrau'n Deg ar lefel unigol yn yr adroddiad Canfyddiadau sy'n Codi ond ni chawsant eu defnyddio ar gyfer y dadansoddiad hwn. Dylid nodi y gall plant mewn is-grwpiau Gofal Plant Dechrau'n Deg amrywio ar hyd amrywiaeth o nodweddion (e.e. statws economaidd-gymdeithasol, oed y rhiant, amgylchedd dysgu yn y cartref) a gall gwahaniaethau mewn deilliannau addysg a chanlyniadau iechyd fod yn gysylltiedig â'r nodweddion hyn yn hytrach na faint o Ofal Plant Dechrau'n Deg a geir neu lefel y presenoldeb mewn sesiynau Gofal Plant Dechrau'n Deg.

Cyfyngiadau

Nid yw'r dadansoddiad hwn wedi ystyried ffactorau eraill a all effeithio ar ddeilliannau addysg (e.e. oedran neu statws economaidd-gymdeithasol y rhieni neu'r amgylchedd dysgu yn y cartref). Gellir ystyried y rhain mewn dadansoddiadau pellach o raglen Dechrau'n Deg gan ddefnyddio dull cysylltu data.

Nid yw'r data a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad hwn yn cwmpasu'r holl blant mewn lleoliadau Dechrau'n Deg yn Abertawe ers dechrau'r rhaglen, dim ond y rhai hynny y mae data ar gael ar eu cyfer. Nid yw'r data chwaith yn cynnwys presenoldeb plant mewn lleoliadau gofal plant eraill nad ydynt yn lleoliadau Dechrau'n Deg. Mae unrhyw gasgliadau yn ymwneud â lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn Abertawe yn unig ac nid ydynt yn ymwneud â lleoliadau gofal plant nad ydynt yn lleoliadau Dechrau'n Deg na lleoliadau gofal plant yn gyffredinol.

Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Gall cyhoeddiadau yn y dyfodol:

  • ystyried lefelau ymgysylltu ag elfen ymweliadau iechyd y rhaglen
  • archwilio i ba raddau y mae Dechrau'n Deg wedi cyflawni'r canlyniadau fel y rhagwelwyd ym model rhesymeg y rhaglen
  • dadansoddi data gan awdurdodau lleol eraill

Cydnabyddiaethau

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn rhan o'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU) a ariennir gan Ymchwil Data Gweinyddol y DU.

Mae Rachel Shepherd and Ryan Nicholls, ynghyd ag aelodau eraill o dîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, wedi cydweithio i lunio'r erthygl hon.

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi llunio data ar ofal plant ac ymyriadau iechyd plant Dechrau'n Deg ac wedi lanlwytho'r data hyn i Fanc Data SAIL. Mae'r Cyngor hefyd wedi cydweithio â dadansoddwyr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wrth ysgrifennu'r adroddiad er mwyn rhoi cipolwg ar y ffordd y caiff rhaglen Dechrau'n Deg ei chyflwyno yn Abertawe. Rydym yn ddiolchgar iawn am y mewnbwn.

Manylion cyswllt

Kathryn Helliwell
Telephone: 0300 062 8349
E-bost: uydg.cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu unrhyw adborth mewn perthynas ag unrhyw elfen o'r adroddiad hwn. Anfonwch eich adborth trwy e-bost i uydg.cymru@llyw.cymru.

Adroddiad ymchwil rhif 14/2021
ISBN Digidol: 978-1-80082-919-0

Image
GSR logo
Image
YDG Cymru