Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer yr anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB gyda dadansoddiadau yn ôl nodweddion buches ar y gyfer Hydref 2018 i Mehefin 2019.

Mae’r erthygl ystadegol hon yn dangos y data epidemiolegol diweddaraf a gasglwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o nifer y gwartheg gafodd eu difa oherwydd rheolau TB. Ers mis Hydref 2018, gwelwyd cynnydd mawr yn y nifer sydd wedi’u difa, gyda mwy yn cael eu difa ym mis Hydref 2018 nag yn unrhyw fis arall.

Prif bwyntiau

Nid un rheswm yn unig sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y gwartheg sydd wedi’u difa i reoli TB. Mae’r sefyllfa’n gymhleth.  Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu pam y cafodd mwy o wartheg nag erioed eu difa ym mis Hydref 2018 a bod y niferoedd wedi para’n uchel oddi ar hynny.  Mae rhai o’r ffactorau hyn yn amrywio o fis i fis, mae rhai ohonynt ar gynnydd ac maent i gyd yn effeithio ar y cyfanswm i ryw raddau. Dyma’r ffactorau hynny:

  • nifer yr achosion â nifer fawr yn adweithio’n bositif ym mis Hydref 2018
  • cynnydd yn y nifer sy’n adweithio i’r prawf gama interfferon
  • cynnydd yn nifer y gwartheg godro sy’n cael eu difa
  • cyfran fawr o’r anifeiliaid gafodd eu difa yn dod o Ardal TB Uchel y Gorllewin.

Adroddiadau

Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 062 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.