Neidio i'r prif gynnwy
Dafydd Trystan Davies AS

Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

Cyfrifoldebau

  • Materion cyfansoddiadol gan gynnwys trefniadau cyfansoddiadol Comisiwn Sefydlog ar Gymru
  • Goruchwylio blaenoriaethau'r Llywodraeth
  • Goruchwylio'r Rhaglen Lywodraethu
  • Cefnogi'r gwaith o oruchwylio Swyddfa'r Cabinet
  • Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Academi Wales
  • Cynllunio ar gyfer y rhaglen ddeddfwriaethol
  • Ystadegau Swyddogol, gan gynnwys y Cyfrifiad, ymchwil gymdeithasol ac arolwg cenedlaethol Cymru
  • Adolygiad o Ymateb Cymru i Covid
  • Gweithredu'r fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan gynnwys Fforymau Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a goruchwylio'r berthynas â Chyrff Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'r Nodau Datblygu Cynaliadwy
  • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Datganoli cyfiawnder a phlismona

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Dafydd Trystan Davies yn Aberdâr ac mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Astudiodd yn Ysgol Rhydfelen ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ennill doethuriaeth am ei waith ar globaleiddio ac economi wleidyddol Cymru.

Cefndir proffesiynol

Roedd yn ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1998 a 2002, yn Brif Weithredwr Plaid Cymru rhwng 2002 a 2007 ac yna’n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol nes iddo gael ei ethol i'r Senedd yn 2026. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru (2020-2025), Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru (2019-2025), Cyfarwyddwr TooGoodToWaste (2010-2026) a Chadeirydd Gweithdy Beicio Caerdydd (2009-2019).

Hanes gwleidyddol

Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd, Prif Weithredwr a Thrysorydd Cenedlaethol Plaid Cymru. O fis Chwefror 2023 tan fis Mai 2024 gwasanaethodd fel Ymgynghorydd Arbenigol ac wedi hynny fel Ymgynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru.

Ym mis Mai 2026, cafodd ei ethol yn Aelod o’r Senedd i gynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf. Cyhoeddodd y byddai'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yn unig yn ystod ei ddyletswyddau yn y Senedd, gan ddogfennu unrhyw ddefnydd hanfodol o gar.

Ar 13 Mai 2026, penodwyd Dafydd Trystan Davies yn Weinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad.

Ysgrifennu at Dafydd Trystan Davies