Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Mai 2025.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caniateir i chi ddal (codi a chario) ieir dodwy ac ieir bwyta ar gyfer eu cludo.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar sut i ddal ieir yn gyfreithiol wrth lwytho a dadlwytho ar gyfer eu cludo fel rhan o weithgareddau masnachol.
Rydym yn cynnig gwneud y gyfraith yn gliriach fel y gallwch ddal ieir wrth ddwy goes. Mae hyn yn unol â pholisi llesiant sefydledig.
Rydym hefyd eisiau casglu mwy o wybodaeth am:
- ba mor hir y mae'n ei gymryd i ddal ieir gan ddefnyddio gwahanol ddulliau mewn gwahanol fathau o siediau
- sut mae tyrcwn yn cael eu dal a'u codi ar hyn o bryd
- sut i gasglu data i ddeall y cysylltiadau rhwng dulliau dal, nifer y bobl mewn tîm dal, a lles anifeiliaid
Arweinir yr ymgynghoriad gan DEFRA ac mae'n cael ei gynnal ar y cyd rhwng llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK
