Neidio i'r prif gynnwy

Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2021.

Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19), â’i gyfyngiadau ar sut, ble a pham yr oedd pobl yn cael teithio yng Nghymru, effaith ar nifer y damweiniau a’r anafusion ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu gydol y rhan fwyaf o 2020. Roedd yr effaith hon wedi parhau yn 2021.

Prif bwyntiau

Image
Mae nifer y damweiniau a gofnodwyd yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 1993.
  • Yn 2021 cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 3,288 o ddamweiniau ffordd, cynnydd o 416 (14.5%) o'i gymharu â 2020, sef y flwyddyn isaf ar gofnod.
  • Arweiniodd y damweiniau ffordd hyn yn 2021 at 4,348 o anafiadau personol. O'r rhain, lladdwyd 86 o bobl, anafwyd 925 o bobl yn ddifrifol a chofnodwyd 3,337 o anafiadau 'mân'.
  • Yn ystod 2021, digwyddodd dros hanner yr holl ddamweiniau ffordd (53%) ar ffyrdd 30mya gyda'r gyfran uchaf nesaf (25%) yn digwydd ar ffyrdd 60mya. Rhannau ffordd â therfyn cyflymder o 20mya oedd â'r gyfran isaf, gan gyfrif am 3% o'r holl ddamweiniau.
  • O edrych ar y duedd hirdymor, bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y damweiniau ffordd lle cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.
  • Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y damweiniau sy'n arwain at farwolaethau neu anaf difrifol wedi bod yn gymharol sefydlog, gyda'r gostyngiad cyffredinol mewn damweiniau yn cael ei gyfrif gan ostyngiad parhaus mewn damweiniau anafiadau 'mân'. 

Adroddiadau

Damweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 563 KB

PDF
Saesneg yn unig
563 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.