Neidio i'r prif gynnwy

Yn syml, mae lleihau cyflymder yn achub bywydau! Bob blwyddyn yng Nghymru, rydym yn gweld yr effeithiau dinistriol y mae gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yn eu cael ar blant a'u teuluoedd. Nhw yw'r achos unigol mwyaf o anafiadau difrifol i blant sydd fel arfer yn cerdded neu'n beicio."

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma eiriau Ymgynghorydd Brys pediatrig Ysbyty Athrofaol Cymru, Dr David Hanna. Roedd yn siarad â Phrif Swyddog Meddygol Cymru yn ystod ymweliad â'r ysbyty, cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru o ddydd Sul 17 Medi.

Yn ôl y data gwrthdrawiadau diweddaraf sydd wedi eu cofnodi gan yr heddlu mae ugain o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru bob wythnos. Golyga hyn fod dros 1,000 o unigolion un ai’n cael eu lladd neu eu heffeithio'n ddifrifol gan wrthdrawiadau bob blwyddyn, gydag effeithiau enfawr ar eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Mae tystiolaeth ryngwladol hefyd yn dangos bod person bum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd ar gyfartaledd pan fydd cerbyd yn teithio ar gyflymder o 30mya o'i gymharu ag 20mya.

Ac, yn ôl Dr Hanna mae plant mewn mwy o berygl nag oedolion. Ychwanegodd:                          

"Mae gan blant lai o ymwybyddiaeth o'r ffyrdd nag oedolion a gallant fod yn anodd eu gweld. Maent hefyd yn tueddu i gael eu taro'n uwch ar y corff nag oedolion oherwydd eu taldra, ac yn fwy tebygol o ddioddef anafiadau difrifol o ganlyniad. Felly, bydd y terfyn o 20mya yn helpu i leihau nifer y gwrthdrawiadau a difrifoldeb anafiadau."

Wrth siarad yn ystod yr ymweliad â'r Uned Achosion Brys yn yr Ysbyty Athrofaol, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton:

"Ymhen ychydig dros fis byddwn yn gweld y newid mwyaf o ran diogelwch cymunedol yng Nghymru ers cenhedlaeth. Mae lleihau cyflymderau nid yn unig yn achub bywydau, ond yn ein helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel.

"Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn dangos mai cyflymder cerbydau yw un o'r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded neu'n beicio, gydag un o bob tri oedolyn yng Nghymru yn dweud y byddai terfyn 20mya yn golygu eu bod yn fwy tebygol o gerdded neu feicio mwy.

"Felly, nid yn unig y bydd cyflymderau arafach yn achub bywydau ac yn lleihau anafiadau, bydd hefyd yn helpu i gadw pobl yn iachach a lleihau'r baich ar y GIG.

Ychwanegodd Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Gallai newid o 30mya i 20mya arwain at 40% yn llai o wrthdrawiadau bob blwyddyn, gyda 6 i 10 o fywydau'n cael eu hachub a rhwng 1200 a 2000 o bobl yn osgoi anaf. O ran atal anafiadau, byddai hyn yn arbed tua £92m  yn y flwyddyn gyntaf yn unig."