Neidio i'r prif gynnwy
Dan Stephens

Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru

Mae gan Dan 30 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth tân ac achub, gan gynnwys:

  • Prif Swyddog Tân Awdurdod Tân ac Achub Glannau Mersi
  • Prif Swyddog a Phrif Swyddog Gweithredol Brigâd Dân Fetropolitan Melbourne (Awstralia)

Mae’n gweithio gyda Gweinidogion Cymru a swyddogion ar y materion canlynol sy’n ymwneud â’r 3 Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru.

  • parodrwydd gweithredol
  • perfformiad
  • strwythur a threfniadaeth

Mae’n gyfrifol hefyd am arolygu diogelwch tân yn holl safleoedd y Goron yng Nghymru ac eithrio safleoedd y fyddin.