Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyfarfu Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, â Llysgennad Japan, Mr. Koji Tsuruoka, sy'n arwain taith i Gymru gan unigolion dylanwadol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llysgenhadaeth Japan wedi datblygu diddordeb mewn gweithio gyda Chymru, ac mae ganddi berthynas gref gyda'r prif gwmni teithio yn Japan, JTB, a chyda'r cwmnïau hedfan JAL ac ANA. Maent wedi targedu Cymru ar gyfer pegwn drutaf eu marchnad. 

Yn ystod eu taith ddeuddydd o amgylch Cymru bydd y grŵp yn ymweld â Chaerdydd a'r Canolbarth ac yn gweld atyniadau fel Castell Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol a Distyllfa Penderyn. 

Daeth y Gogledd i amlygrwydd yn Japan yn 2015 wrth i gymdeithas asiantwyr teithio Japan (JATA) ddewis Conwy fel un o'r 30 lle mwyaf prydferth yn Ewrop. Sbardunodd hyn ymgyrch ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, JATA a phartneriaid lleol i hyrwyddo Cymru a Chonwy. 

Dyfarnwyd arian i Celtic English a Thwristiaeth Gogledd Cymru o Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Croeso Cymru i dargedu'r farchnad yn Japan drwy fanteisio ar y berthynas â JATA a thrwy dargedu cystadlaethau allweddol ym maes  chwaraeon  - Cwpan Rygbi'r Byd 2019 a Gemau Olympaidd 2020 - i godi proffil Cymru yn Japan drwy gyfrwng chwaraeon, addysg, treftadaeth a diwylliant.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Roedd hwn yn gyfle gwych i gyfarfod â’r grŵp hwn o dan arweiniad y Llysgennad heddiw, wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith drwy Gymru. Mae ymweliadau ymgyfarwyddo gan gwmnïau teithiau tramor dylanwadol yn bwysig iawn er mwyn ein helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr tramor sy'n dod i Gymru a'n cyfran ni o ymwelwyr tramor sy'n dod i'r DU.

“Roedd y proffil uwch a oedd gan Gonwy yn Japan yn dilyn y clod gan JATA yn 2015 yn llwyfan gwych i ni hyrwyddo Cymru mewn marchnad eithaf newydd ac i ledaenu'r neges am yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.  Mae'r diwydiant yn y Gogledd wedi manteisio ar y cyfle i ddenu mwy o ymwelwyr o'r farchnad honno ac mae'n edrych ymlaen at groesawu rhagor eto i'r ardal - y cam mesaf yw ehangu'r diddordeb a'r buddiannau i rannau eraill o Gymru."

"Mae Caerdydd yn gyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer chwaraeon a thwristiaeth, ac mae llety ardderchog ar gael yn y ddinas ac yn yr ardal gyfagos. O dymor yr haf, 2018 ymlaen bydd llwybr Qatar Airways i Gaerdydd yn cynnig ffordd ychwanegol i deithio i Gymru o Tokyo drwy Doha. Bydd Cymru'n gweithio gyda chwmnïau blaenllaw o Japan i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hyn.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r llysgenhadaeth a phartneriaid yn y diwydiant teithio yn y dyfodol i gynyddu nifer yr ymwelwyr â Chymru o Japan."

Dywedodd Llysgennad Japan, Mr. Koji Tsuruoka: 

“Mae Cymru ac ardal Bae Caerdydd yn fywiog iawn, gydag adeiladau trawiadol a phensaernïaeth arbennig.  Mae hyn, ynghyd â diwylliant a threftadaeth Cymru yn ddeniadol iawn i ymwelwyr Japan.  yr wyf yn falch o allu dod a rheolwyr cwmniau awyr i Gymru fel rhan o’r ddirprwyaeth yn y gobaith y gallwn ddod â mwy o ymwelwyr i Gymru yn y dyfodol. Roedd yn dda i gwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet, y mae’r ddau ohonom yn cytuno bod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2019 yn gyfle gwych i adeiladu ar y berthynas rhwng Cymru a Japan."