Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’n ategu Fframwaith Mesur Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy’n esbonio’n fanylach sut y datblygwyd y dangosyddion.

Lle y bo modd, mae’r dangosyddion wedi cael eu dewis i gyd-fynd â chamau gweithredu a chanlyniadau’r ArWAP. Fodd bynnag, nid yw pob cam gweithredu yn addas ar gyfer gwaith monitro ystadegol lefel uchel.

Cyfyngiadau’r data

Mae cyfyngiadau pwysig ar y data y dylid eu hystyried wrth ddehongli’r dangosyddion yn y dangosfwrdd.

  • Weithiau, mae grwpiau ethnig yn cael eu cyfuno’n gategorïau ehangach oherwydd maint bach y samplau, materion ynglŷn â datgelu neu oherwydd mai dim ond ar lefel gyfunol mae’r data ffynhonnell ar gael. Gall hyn gelu gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig manylach.
  • Dylid cymryd gofal hefyd wrth ddehongli newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, yn enwedig lle mae maint y samplau yn fach.
  • Gall tuedd o ganlyniad i beidio ag ymateb effeithio ar ddangosyddion arolygon.
  • Mae ffigurau yn cael eu hatal lle mae’r boblogaeth neu faint y sampl o dan 10. Ar gyfer data Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae ffigurau yn cael eu hatal lle mae meintiau samplau o dan 30.
  • Lle mae data’r arolwg ei hun ar gael, mae cyfyngau hyder wedi cael eu cyfrifo a’u dangos. Sylwer na fydd gwahaniaethau a welwyd rhwng grwpiau ethnig yn ystadegol arwyddocaol o bosibl.

Lle y bo’n briodol, mae rhagor o wybodaeth ar ansawdd y data wedi cael ei gynnwys yn y dangosfwrdd. Ceir dolenni i’r data ffynhonnell (gan gynnwys adroddiadau manylach ar ansawdd y data) yn y dangosfwrdd hefyd.

Cyfyngedig yw’r data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer rhai penodau, megis Cenedl Noddfa a Gofal Plant a Chwarae, a hynny oherwydd bylchau hysbys yn y data a gesglir. Mae gwaith yn cael ei wneud i lenwi’r bylchau hyn mewn diweddariadau ar y dangosfwrdd yn y dyfodol.

Sut rydym yn grwpio ethnigrwydd

Mae cyfyngiadau pwysig ar y data y dylid eu hystyried wrth ddehongli’r dangosyddion yn y dangosfwrdd.

  • Weithiau, mae grwpiau ethnig yn cael eu cyfuno’n gategorïau ehangach oherwydd meintiau samplau bach, materion datgelu neu oherwydd mai dim ond ar lefel gyfanredol mae’r data ffynhonnell ar gael. Gall hyn gelu gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig manylach.
  • Dylid dehongli newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn ofalus hefyd, yn enwedig lle mae meintiau samplau yn fach.
  • Gall tuedd o ganlyniad i beidio ag ymateb effeithio ar ddangosyddion sy’n seiliedig ar arolygon.
  • Mae ffigurau yn cael eu hatal lle mae’r boblogaeth neu faint y sampl o dan 10. Ar gyfer data Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae ffigurau yn cael eu hatal lle mae meintiau samplau o dan 30.
  • Lle mae data sylfaenol yr arolwg ar gael, mae cyfyngau hyder wedi cael eu cyfrifo a’u dangos. Sylwer na fydd gwahaniaethau a welwyd rhwng ethnigrwydd o reidrwydd yn ystadegol arwyddocaol.

Lle y bo’n briodol, mae rhagor o wybodaeth am ansawdd y data wedi cael ei chynnwys yn y dangosfwrdd. Ceir dolenni i’r data ffynhonnell (gan gynnwys adroddiadau manylach ar ansawdd y data) yn y dangosfwrdd hefyd.

Cyfyngedig yw’r data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer rhai penodau, megis Cenedl Noddfa a Gofal Plant a Chwarae. Mae hyn oherwydd bylchau hysbys yn y gwaith o gasglu data. Mae gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r bylchau hyn mewn diweddariadau o’r dangosfwrdd yn y dyfodol.

Sut rydym yn grwpio ethnigrwydd

Lle bynnag y mae’r data yn caniatáu, mae dadansoddiadau manwl o ethnigrwydd yn cael eu nodi yn y dangosfwrdd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae grwpiau ethnigrwydd wedi cael eu cyfuno i gynyddu maint samplau amcangyfrifon.

Mae data wedi cael eu mapio i gategorïau ethnigrwydd Cyfrifiad 2021 y SYG lle bynnag y bo modd. Mae rhagor o wybodaeth am gategoreiddio grwpiau ethnig ar gael ar wefan y SYG.

Er mwyn bod yn gryno, mewn testun disgrifiadol, mae categori’r cyfrifiad “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” wedi cael ei dalfyrru i “Gwyn Prydeinig”.

Mae rhai dangosyddion yn y bennod ar arweinyddiaeth yn defnyddio diffiniad gwahanol o leiafrif ethnig. Ar gyfer y dangosyddion hyn, mae grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi’u cynnwys yn y categori lleiafrif ethnig, tra bod grwpiau lleiafrifol Gwyn eraill wedi’u cynnwys yn y categori Gwyn.

Pob grŵp

Pawb yn y set ddata. Mae’n cynnwys cofnodion lle mae ethnigrwydd yn anhysbys, wedi’i wrthod neu heb ei nodi.

Pob lleiafrif ethnig

Pawb sydd wedi nodi eu bod yn perthyn i gefndir ethnig lleiafrifol. Mae’n cynnwys grwpiau lleiafrifol Gwyn megis:

  • Gwyddelig
  • Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Roma
  • Unrhyw gefndir Gwyn arall

Heb gynnwys Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig, ac heb gynnwys Anhysbys.

Lleiafrif ethnig (heb gynnwys Gwyn)

Pawb yn y grwpiau Asiaidd, Du, Cymysg neu Amlethnig, ac Arall. Nid yw’n cynnwys unrhyw grwpiau Gwyn nac Anhysbys.

Rydym yn darparu hyn yn ychwanegol at “Pob lleiafrif ethnig” am fod rhai ffynonellau data yn cynnwys grwpiau lleiafrifol Gwyn yng nghyfanswm “Lleiafrifoedd ethnig” ac nid yw eraill yn gwneud hynny.

Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig

Mae’n cynnwys

  • Indiaidd
  • Pacistanaidd
  • Bangladeshaidd
  • Tsieineaidd
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Cymreig neu Ddu Prydeinig

Mae’n cynnwys

  • Affricanaidd
  • Caribïaidd
  • Unrhyw gefndir Du, Affricanaidd neu Garibïaidd arall

Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig

Mae’n cynnwys

  • Gwyn ac Asiaidd
  • Gwyn a Du Affricanaidd
  • Gwyn a Du Caribïaidd
  • Unrhyw gefndir ethnig Cymysg neu Amlethnig arall

Gwyn

Mae’n cynnwys

  • Seisnig
  • Cymreig
  • Albanaidd
  • Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
  • Gwyddelig
  • Sipsi
  • Teithiwr
  • Roma
  • Unrhyw gefndir Gwyn arall

Mae rhai dangosyddion addysg sy’n seiliedig ar setiau data hŷn yn defnyddio categori cyfun “Sipsiwn neu Roma”, sydd wedi’i rannu’n gategorïau ar wahân ar gyfer Sipsiwn a Roma mewn data mwy diweddar.

Grŵp ethnig arall

Mae’n cynnwys Arabaidd neu unrhyw grŵp ethnig arall.

Cymysg neu Amlethnig neu gefndir arall

Mae’n cynnwys yr holl grwpiau ethnig cymysg yn ogystal â’r holl grwpiau ethnig eraill. Categori cyfun yw hwn, a ddefnyddir pan fydd meintiau samplau yn y categorïau grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig neu Grŵp ethnig arall yn rhy fach.

Anhysbys

Nid yw ethnigrwydd yn cael ei gasglu, nid yw ar gael, neu nid yw wedi’i nodi, gan gynnwys gwrthodiadau.

Rhagor o wybodaeth

Cymru Wrth-hiliol (ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol)

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: mesur ei effaith ar fywydau pobl (i gael manylion methodolegol a rhestr termau lawn ar y fframwaith dangosyddion)

Data’r Cyfrifiad ar wefan y SYG (defnyddiwyd data o gyfrifiad 2021 i gyfrifo rhai dangosyddion yn y dangosfwdd)

Ffeithiau a ffigurau ynglŷn ag ethnigrwydd ar wefan Llywodraeth y DU (i gael data ychwanegol ar ethnigrwydd sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr)

Adborth

Mae’r dangosfwrdd yn waith ar y gweill, gyda dangosyddion ar gyfer llawer o benodau yn dal i gael eu datblygu. Rydym yn croesawu eich adborth i’n helpu i wella’r adnodd hwn.

Anfonwch unrhyw sylwadau neu awgrymiadau I YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru.