Yn esbonio'r termau a ddefnyddir yn y ddangosffwrdd.
Cynnwys
Ffigur 1: achosion newydd yn y chwarter ac achosion agored ar ddiwedd y chwarter
Mae dotiau glas yn dangos lleoliadau buchesi lle mae achosion newydd o TB yn y chwarter cyfredol.
Mae dotiau coch yn dangos lleoliadau buchesi lle mae achosion o TB sydd a ddechreuodd cyn y chwarter hwn ac sy’n dal yn agored ar ddiwedd y chwarter.
Tabl cryno rhanbarthol
Data ar gyfer nifer y buchesi byw, yr achosion a agorwyd a’r achosion wedi’u cau yn ystod y chwarter, yr achosion agored ar ddiwedd y chwarter a’r gwartheg sydd wedi adweithio yn ystod y chwarter.
Cyflwynir y ffigurau ar lefel Cymru a’r 5 ardal TB.
Mae siartiau bar gwreichlin yn dangos nifer yr achosion fesul chwarter ers 2010.
Mae barrau coch yn dangos y nifer uchaf a’r barrau gwyrdd yn dangos y nifer isaf yn ystod y cyfnod dan sylw.
Mae graddfa’r echelin fertigol yn newid rhwng y siartiau.
Mesurydd statws heb TB Swyddogol
Canran y buchesi â Statws heb TB swyddogol yn y chwarter dan sylw a’r chwarteri cyfwerth yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn cynrychioli nifer y buchesi sydd â statws Heb TB Swyddogol o dan ddeddfwriaeth yr UE (gellir masnachu buches â'r statws hwn ac nid oes cyfyngiadau TB Gwartheg arnynt).
Fel canran o’r holl fuchesi byw.
Achosion sy’n newydd, wedi’u cau ac agored
Achosion newydd
Nifer y buchesi sydd â statws Heb TB Swyddogol (OFT) lle mae o leiaf un anifail wedi adweithio i'r prawf neu un anifail wedi rhoi canlyniad amhendant i’r prawf neu lle cafwyd mewn lladd-dy bod TB ar un neu fwy o anifeiliaid o’r fuches yn y chwarter ar ôl prawf labordy.
Achosion wedi’u cau
Nifer yr achosion o TB Gwartheg lle mae cyfyngiadau wedi’u codi (cyfyngiadau TB10) yn y chwarter.
Achosion agored
Cyfanswm yr achosion o TB Gwartheg sy’n parhau o dan gyfyngiadau ar ddiwedd y chwarter. Yn cynnwys achosion newydd ac achosion sy’n parhau ers y cyfnodau adrodd blaenorol.
Achosion newydd, buchesi dan gyfyngiadau a risg ar lefel anifeiliaid
Achosion newydd am bob 100 o brofion mewn buchesi byw (niferoedd cymharol)
Nifer y buchesi a gafodd eu rhoi o dan gyfyngiadau oherwydd achos newydd o TB Gwartheg am bob 100 o brofion mewn buchesi byw yn y chwarter.
Buchesi sydd o dan gyfyngiadau oherwydd TB Gwartheg am bob 100 o fuchesi byw
Nifer y buchesi o dan gyfyngiadau oherwydd TB Gwartheg, mewn ardal benodedig, ar ddiwedd y chwarter.
Y nifer sydd wedi adweithio am bob 1,000 o wartheg a brofwyd (risg ar lefel anifeiliaid)
Y nifer o wartheg sydd wedi adweithio am bob 1,000 o wartheg a brofwyd yn y chwarter.
Achosion o ailheintiad (y nifer o achosion cau a fydd yn torri i lawr eto)
Cyfran yr achosion o TB Gwartheg wedi cau yn y chwarter lle cafwyd achos arall yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r barrau glas yn dangos achosion a gafodd eu cau yn ystod y chwarter ac a barodd ar gau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae barrau coch yn dangos achosion wedi’u cau a gafodd eu hailheintio yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r llinell werdd yn dangos ailheintiau fel canran (darllenwch ar draws i’r ail echelin Y ar yr ochr dde).
Rhestr termau
Heb TB swyddogol (OTF)
Heb TB swyddogol (OTF) - statws a roddir i fuches gwartheg ac a ddiffinnir yn unol â deddfwriaeth yr UE. Gellir masnachu buches â'r statws hwn ac nid yw o dan gyfyngiadau TB Gwartheg.
Achos newydd o TB Gwartheg
Buches â statws heb TB swyddogol yn y gorffennol lle cafwyd o leiaf un prawf positif neu ganlyniad amhendant i’r prawf neu lle cafwyd mewn lladd-dy bod TB ar un neu fwy o anifeiliaid o’r fuches ar ôl prawf labordy. Mae’r cyfyngiadau, ac felly yr achos, yn dechrau ar y dyddiad a ddatgelwyd canlyniad y prawf ac yn dod i ben ar y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad bod yr achos wedi’u cau (ffurflen TB10) gan APHA.
Buches fyw
Buches sydd wedi’i chofrestru o dan rif daliad a oedd yn “fyw” (h.y. heb ei harchifo), a’i nodi fel buches fyw ar SAM (system gymorth TG APHA ar gyfer rheoli gwaith). Achos yw nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg sy’n taro nifer penodedig o anifeiliaid neu fuchesi yn ystod cyfnod penodedig o amser. Achosion cymharol yw nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg a ddatgelwyd mewn nifer penodedig o brofion ar fuchesi.
Achos
Nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg sy’n taro nifer penodedig o anifeiliaid neu fuchesi yn ystod cyfnod penodedig o amser.
Achosion cymharol
Nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg a ddatgelwyd mewn nifer penodedig o brofion ar fuchesi.
Nifer y buchesi dan gyfyngiadau
Nifer y buchesi lle ceir achosion o TB Gwartheg mewn nifer penodedig o fuchesi ar amser penodedig.
Risg ar lefel anifeiliaid
Nifer y gwartheg sydd wedi adweithio a ddatgelwyd mewn nifer penodedig o anifeiliaid a brofwyd ar amser penodedig.
