Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020.

Effaith y coronafeirws

Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn cwmpasu'r pandemig coronafirws ac yn dangos gostyngiadau sylweddol ar draws y Dangosyddion Allbwn Tymor Byr. Trafodir effeithiau posibl o ganlyniad i hyn trwy gydol y adroddiad.

Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor byrrach.

Mae pandemig y coronafeirws hefyd wedi effeithio ar waith casglu data ar gyfer y chwarter hwn.

Prif bwyntiau

Image
Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, ond bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Yn y chwarter diweddaraf, roedd yna ostyngiadau mawr ym mhob un o’r tri mynegai.

 

Mae'r tri dangosydd wedi cael y cwympiadau chwarterol mwyaf ers i'r gyfres ddechrau ym 1998.

Mae’r tuedd tymor byr ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 14.8% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 19.4%, dros yr un cyfnod. Mae'r cwymp yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r gostyngiad mewn Dosbarthu a Llety a Gweithgareddau Gwasanaeth Bwyd.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 6.0% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2020, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 4.7% dros yr un cyfnod. Dyma'r cwympiadau mwyaf ers i'r gyfres gychwyn.

Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 13.7% ar gynnydd yng Nghymru o’i gymharu â’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 16.9%, dros yr un cyfnod. Mae'r cwymp yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r gostyngiad mewn Offer Cludo.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 4.2% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 6.6%, dros yr un cyfnod.

Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 31.2% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 35.0%, dros yr un cyfnod.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 8.8% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2020, o'i gymharu â deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 9.3% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ebrill i Fehefin 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.