Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021.

Effaith y coronafeirws

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu cyfnod yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) rhwng Ebrill a Mehefin 2021. Mae amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Gorffennaf 2020 i Fehefin 2021 yn ystod cyfnod y pandemig hefyd wedi'u cynnwys.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma, gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio ac argymhellir canolbwyntio ar dueddiadau tymor hirach.

Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor byrrach.

Prif bwyntiau

Image
Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser.

Cynyddodd dau o’r tri mynegai yn flynyddol (y pedwar chwarter diweddaraf o gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol) ar gyfer Cymru. Yn chwarterol, dangosodd y tri mynegai gynnydd. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol, roedd cynnydd yn y mynegai gwasanaethau marchnata o 3.6% yng Nghymru a 5.6% yn y DU.

Mae’r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â cynnydd mewn Dosbarthiad.

Mae'r duedd tymor hir yn dangos cynnydd o 3.4% yng Nghymru a gostyngiad o 1.8% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2021, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.

Mynegai Cynhyrchu

Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 4.7% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.0%, dros yr un cyfnod.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad blynyddol o 0.6% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2021. Cynyddodd allbwn y DU o 1.8% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 0.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 3.8% dros yr un cyfnod.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos cynnydd blynyddol o 10.3% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2021. Bu cynnydd o 4.1% yn allbwn y DU dros yr un cyfnod.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ebrill i Fehefin 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.