Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i’r flwyddyn sy’n dod i ben yn Rhagfyr 2019. Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19).

Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser.

Prif bwyntiau

Y mae Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi cynyddu 2.4% yn 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.7%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Trafnidiaeth a Thechnoleg Gwybodaeth a Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol.

Roedd yna ostyngiad bach wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol yng Nghymru. Doedd dim newid yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.

Mae’r Mynegai Cynhyrchu Cymru wedi gostwng 0.5% yn 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 1.4%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Bwyd, Diodydd a Gweithgynhyrchu.

Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos cynnydd o 5.0% ar gynnydd yng Nghymru o’i gymharu â’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 0.7%, dros yr un cyfnod.

Mae'r Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 4.8% yn 2019, o'i gymharu â deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 2.3% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.

Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yng Nghymru yn dangos cynnydd o 0.9% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Arhosodd allbwn y DU yn gyffredinol debyg dros yr un cyfnod.

Nodyn

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ystadegau arbrofol am GDG Cymraeg am y tro cyntaf ym mis Medi 2019.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor byr, Hydref i Ragfyr 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 707 KB

PDF
Saesneg yn unig
707 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.