Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Ragfyr 2020.

Effaith y coronafeirws

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu cyfnod yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) rhwng Hydref a Rhagfyr 2020. Mae amcangyfrifon blynyddol wedi’u cynnwys hefyd sy’n cynnwys tua thri mis cyn, a naw mis yn ystod cyfnod y pandemig.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma – gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio ac argymhellir canolbwyntio ar dueddiadau tymor hirach.

Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor byrrach.

Prif bwyntiau

Image
Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Yn y chwarter mwyaf diweddar, mae pob un o'r tri mynegai wedi cynyddu yn dilyn gostyngiad sylweddol yn 2020 C2.

Gostyngodd y tri mynegai yn flynyddol (y pedwar chwarter diweddaraf o gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol) ar gyfer Cymru a'r DU. Bob chwarter, dangosodd y mynegeion gynnydd bach. Mae hyn yn dilyn y gostyngiadau chwarterol mwyaf a gofnodwyd ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Mae’r mynegai gwasanaethau marchnata ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 0.9% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.5%, dros yr un cyfnod.

Mae’r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â chynnydd mewn Trafnidiaeth a Gweithgareddau Gwasanaethau Gweinyddol a Chymorth.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 8.4% yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2020, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 9.8% dros yr un cyfnod. Dyma'r cwympiadau blynyddol mwyaf ers i'r gyfres gychwyn yn 1998.

Yng Nghymru, gwelwyd ostyngiad yn wyth allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.

Mynegai Cynhyrchu

Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 0.5% wrth gymharu chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 2.0%, dros yr un cyfnod.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 8.4% yn y flwyddyn i fis Rhagfyr 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 8.6%, dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 8.7% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 2.7%, dros yr un cyfnod.

Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 10.2% yn y flwyddyn i fis Rhagfyr 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Bu gostyngiad o 13.8% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Hydref i Rhagfyr 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.