Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021.

Effaith y coronafeirws

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Hydref i Rhagfyr 2021 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer 2021. Mae’r ddau gyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), fodd bynnag roedd cymhariaethau blynyddol â 2020 yn cynnwys yn fras naw mis cyntaf y pandemig.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma – gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio ac argymhellir canolbwyntio ar dueddiadau tymor-hirach.

Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor-byrrach.

Prif bwyntiau

Image
Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Cynyddodd pob un o’r tri mynegai yn flynyddol (y pedwar chwarter diweddaraf o gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol) ar gyfer Cymru. Yn chwarterol, dangosodd dau o’r mynegai ostyngiad. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 8.6% yng Nghymru a chynnydd o 6.2% yn y DU yn 2021, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pump allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
  • Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 1.4% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.6% dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

  • Mae'r duedd tymor-hir yng Nghymru yn dangos cynydd blynyddol o 2.0% yn 2021. Cynyddodd allbwn y DU o 5.1% dros yr un cyfnod.
  • Wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol, roedd gostyngiad yn y Mynegai Cynhyrchu o 3.1% yng Nghymru a 0.2% yn y DU.

Mynegai Adeiladu

  • Mae'r duedd tymor-hir yng Nghymru yn dangos cynnydd blynyddol o 21.6% yn 2021. Bu cynnydd o 12.9% yn allbwn y DU dros yr un cyfnod.
  • Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 4.6% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.0% dros yr un cyfnod.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Hydref i Ragfyr 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 645 KB

PDF
Saesneg yn unig
645 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.