Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2022.

Effaith y coronafeirws

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Hydref i Rhagfyr 2022 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer y cyfnod Ionawr 2022 i Ragfyr 2022.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Hydref 2000 i Rhagfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart llinell y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2000, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Cynyddodd pob un o’r tri mynegai ar gyfer Cymru yn flynyddol; y pedwar chwarter diweddaraf (Ionawr 2022 i Ragfyr 2022). Yn chwarterol, dangosodd y mynegai adeiladu gynnydd tra bod gwasanaethau marchnata a chynhyrchu yn dangos gostyngiadau. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 3.3% yng Nghymru a chynnydd o 5.1% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
  • Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.2%, dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 2.8% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 2.8% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.6% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Ni newidiodd allbwn y DU dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 11.8% ar gyfer Cymru a chynnydd o 6.2% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 13.1% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.3% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y Cyhoeddiad hwn

Oherwydd bod yr SYG yn cynhyrchu GDP rhanbarthol chwarterol penderfynwyd roi'r gorau i gynhyrchu'r Dangosyddion Allbwn Tymor Byr hyn. O'r herwydd, cyhoeddiad chwarter 1 2023 fis Gorffennaf fydd yr olaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ystadegau.economi@llyw.cymru.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Hydref i Rhagfyr 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Melanie Brown

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.