Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2023.

Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Hydref i Ragfyr 2023 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Ionawr 2023 i Ragfyr 2023.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Hydref 2001 i Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2000, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol

Prif bwyntiau

Gostyngodd Gwasanaethau Cynhyrchu a Marchnata ar sail flynyddol a chwarterol, tra bod gwaith Adeiladu yn dangos cynnydd ar sail flynyddol a gostyngiad yn chwarterol. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid drwy gydol y pandemig coronafeirws (COVID-19) gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 1.3% yng Nghymru a chynnydd o 0.2% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. 

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pump allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.

Roedd Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru yn parhau i fod yn ddigyfnewid yn eang o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.2% dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 5.0% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.4% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos gostyngiad o 2.1% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 1.1% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 26.5% ar gyfer Cymru a chynnydd o 2.1% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos gostyngiad o 4.5% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.9% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y Cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r SYG wedi cyhoeddi ers hynny eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. O ganlyniad, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr yma yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn argaeledd data economaidd i Gymru. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Hydref i Rhagfyr 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 653 KB

PDF
Saesneg yn unig
653 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Melanie Brown

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.