Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i’r flwyddyn sy’n dod i ben yn Mawrth 2020. Bydd yr adroddiad yn ymdrin â chyfnod byr iawn o'r pandemig coronafirws (COVID-19).

Effaith y coronafeirws

Mae’n anodd dehongli newidiadau tymor byr gan fod maint y samplau yng Nghymru yn llai. Mae pandemig y coronafeirws hefyd wedi effeithio ar waith casglu data ar gyfer y chwarter hwn.

Ni allwn ddatgan yn bendant mai’r pandemig sy’n gyfrifol am y newidiadau diweddar. Daw’r effaith ar economi Cymru yn fwy clir wrth i ragor o ddata gael eu creu.

Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser.

Prif bwyntiau

Gwnaeth y Fynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru gynyddu ychydig yn y flwyddyn i fis Mawrth 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.8%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Technoleg Gwybodaeth a Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol a Thrafnidiaeth.

Mae’r tuedd tymor byr ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 3.2% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 2.0%, dros yr un cyfnod.

Mae’r Mynegai Cynhyrchu Cymru wedi gostwng 1.7% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 2.3%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Bwyd, Diodydd a Gweithgynhyrchu.

Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos gostyngiad o 13.0% ar gynnydd yng Nghymru o’i gymharu â’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 1.5%, dros yr un cyfnod.

Mae'r Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 0.2% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2020, o'i gymharu â deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 0.4% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.

Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 0.4% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngiad allbwn y DU gan 1.7%, dros yr un cyfnod.

Nodyn

Cyhoeddodd y SYG ystadegau arbrofol am GDG Cymraeg am y tro cyntaf ym mis Medi 2019.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ionawr i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.