Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Mawrth 2023.

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Ionawr i Mawrth 2023 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 i Mawrth 2023.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ionawr 2001 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2000, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Prif bwyntiau

Cynyddodd pob un o’r tri mynegai ar gyfer Cymru yn flynyddol; y pedwar chwarter diweddaraf (Ebrill 2022 i Mawrth 2023). Yn chwarterol, dangosodd adeiladu a gwasanaethau marchnata gynnydd tra bod  cynhyrchu yn dangos gostyngiad. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 1.9% yng Nghymru a chynnydd o 2.9% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
  • Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos cynyddu o 0.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.5%, dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.4% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 3.0% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 3.4% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.1%, dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 20.5% ar gyfer Cymru a chynnydd o 5.6% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 8.7% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.4% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y Cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r SYG wedi cyhoeddi ers hynny eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. O ganlyniad, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr yma yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn argaeledd data economaidd i Gymru. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ionawr i Mawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 755 KB

PDF
Saesneg yn unig
755 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Melanie Brown

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.