Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Ionawr i Fawrth 2025 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Ffigur 1: dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ionawr 1999 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1: dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Prif bwyntiau

Gostyngodd Cynhyrchiant ac Adeiladu yn flynyddol a chynyddodd yn chwarterol. Cynyddodd Gwasanaethau’r Farchnad yn flynyddol a gostyngodd yn chwarterol.

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 1.0% yng Nghymru a chynnydd o 1.4% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.

Gostyngodd Mynegai Gwasanaethau’r Farchnad Cymru gan 0.2% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.9% dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 1.9% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 1.1% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos cynnydd o 0.8% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.3% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 26.0% ar gyfer Cymru a cynnydd o 0.7% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynyddiad o 7.3% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.3% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y Cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y SYG eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. Cyhoeddwyd adolygiad dulliau o'r data GDP rhanbarthol chwarterol gan y Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd ym mis Mawrth 2025, gyda’r SYG yn cadarnhau eu bod yn gweithio tuag at adfer y cyhoeddiad yn eu post blog cysylltiedig. O ganlyniad, ac ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image