Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ionawr i Mawrth 2026 (prif bwyntiau)
Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Mawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu’r cyfnod o Ionawr i Fawrth 2026 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer mis Ebrill 2025 i Fawrth 2026.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Cynyddodd cynhyrchiant ar gyfer Cymru ar sail blynyddol a chwarterol. Fodd bynnag, cynyddodd gwasanaethau farchnad ar sail blynyddol a gostyngodd ar sail chwarterol, tra gostyngodd adeiladu ar sail blynyddol ond cynyddodd ar sail chwarterol.
Ffigur 1: dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ionawr 1999 i Fawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 1: dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod mynegai gwasanaethau’r farchnad a’r mynegai cynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn 2020 Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin 2020) yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.
Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a'r SYG
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.1% yng Nghymru a chynnydd o 1.2% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2026, o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn 6 allan o’r 9 is-sector ar sail blynyddol, tra gostyngodd 3. Cynyddodd 7 o’r 9 is-sector yn y DU dros yr un cyfnod, a gwelwyd dim newid mewn 2.
Gostyngodd y Mynegai Gwasanaethau’r Farchnad Cymru gan 0.9% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.9% dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.1% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.3% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2026 o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos cynnydd o 0.1% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.2% dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 7.5% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.4% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2026, o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 6.3% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.2% dros yr un cyfnod.

