Mae nyth marw y gacynen felyngoes wedi'i ddarganfod ger Wrecsam. Dyma'r tro cyntaf i bresenoldeb y pryfyn gael ei gadarnhau yng Nghymru.
Mae'r gacynen felyngoes (Vespa velutina nigrithorax - Yellow-legged hornet), neu'r gacynen Asiaidd o roi ei enw arall arno, yn fath o bryfedyn sydd ddim yn frodorol i Brydain. Daw o Asia'n wreiddiol a chafodd ei gweld gyntaf yn Ffrainc yn 2004.
Ers hynny, mae hi wedi lledu a chyrraedd sawl gwlad yn Ewrop, gan gynnwys Sbaen, Gwlad Belg, Portiwgal, yr Eidal, y Swistir a'r Almaen.
Mae'r gacynen felyngoes yn peri perygl i wenyn mêl a phryfed peillio, a dyna pam rydym yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus yng Nghymru, ac yn gofyn i bobl sy'n meddwl eu bod wedi gweld un i'w cofnodi.
Yn 2016, gwelwyd y gacynen felyngoes gyntaf yn Lloegr ac mae camau wedi cael eu cymryd bob blwyddyn ers hynny i ddod o hyd i nythod a'u dinistrio.
Bydd defnyddio'r canllaw adnabod yn helpu i wahaniaethu rhwng cacwn melyngoes a phryfed brodorol sy'n edrych yn debyg.
Trwy ddysgu sut i adnabod y gacynen felyngoes a chofnodi pan fyddwch yn ei gweld, rydych chi'n helpu i atat y pryfyn goresgynnol hwn rhag lledaenu.
Er bod breninesau'r cacwn melyngoes yn gaeafgysgu, mae'r pryfed yn weithgar o fis Chwefror i fis Tachwedd ac maen nhw'n fwyaf tebygol o gael eu gweld o fis Gorffennaf ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Uned Wenyn Genedlaethol (rhan o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) gymryd camau yn unol â'r Cynllun ar gyfer Picwn Asia Cynllun ar gyfer Picwn Asia.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae gan yr Uned Wenyn Genedlaethol flynyddoedd o brofiad o olrhain a dod o hyd i gacwn melyngoes felly bydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy wrth ein helpu i weithredu yn erbyn y pryfedyn yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i wenynwyr ac aelodau o'r cyhoedd sy'n parhau i fod yn wyliadwrus ac yn parhau i gofnodi unrhyw amheuon neu i gofnodi os ydynt yn amau eu bod wedi gweld cacwn melyngoes
"Mae angen i bawb ddysgu sut i adnabod cacwn melyngoes. Wrth i'r tywydd gynhesu yn y gwanwyn ac yn enwedig ymlaen i'r haf, parhewch i fod yn wyliadwrus."
Os ydych chi'n amau eich bod wedi gweld cacwn melyngoes, dylech roi gwybod am hyn gan ddefnyddio'r ap Asian Hornet Watch, sydd ar gael ar Apple ac Android, neu drwy ddefnyddio'r ffurflen hysbysu ar-lein.
Dylech gynnwys ffotograff a lleoliad y gacynen gyda'ch hysbysiad. Mae canllawiau adnabod a mwy o wybodaeth ar gael yma.
Nid yw cacwn melyngoes yn ymosodol yn gyffredinol, ond dylid cymryd gofal i beidio â mynd at nyth neu darfu arnynt gan y byddant yn dod yn troi'n ymosodol os byddant yn gweld bygythiad.
Mae cyngor meddygol am bigiadau cacwn ar gael ar wefan y GIG.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen 'Yellow-Legged Hornet' yr Uned Wenyn Genedlaethol.
